Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu – RSPB Cymru

Dyddiad cau: 16.11.25
Lleoliad: Hyblyg yng Nghymru
Cyflog: £60,178.00 – £64,248.00 y flwyddyn + buddion


Pecyn Cymraeg

Mae’r RSPB yn awyddus i benodi Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu i RSPB Cymru. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cynnig arweinyddiaeth strategol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau a rhaglenni’r RSPB, drwy arwain adran arbenigol a rhoi cefnogaeth broffesiynol i dimau gweithredol yng Nghymru. Mae hon yn rôl amlwg iawn lle gallwch benderfynu sut mae’r RSPB yn cael ei weld a’i gefnogi yng Nghymru.

Rydyn ni’n chwilio am arweinydd dylanwadol a thrawsnewidiol ym maes cyfathrebu a chodi arian i ymuno â’n Tîm Arwain yn RSPB Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chymheiriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Phencadlys yr RSPB i ddatblygu cynlluniau i ymgysylltu â phobl ledled y DU a’u grymuso, gan addasu dulliau gweithredu i gyd-fynd â chyd-destun penodol Cymru. 

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Sgiliau amlwg o ran arwain a rheoli pobl, gallu cymell a datblygu sgiliau aelodau’r tîm i sicrhau perfformiad uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu, negodi a chynrychioli’r sefydliad ac eiriol dros ei genhadaeth ar lefel uwch
  • Sgiliau cydweithio i feithrin perthnasoedd, llywio gwleidyddiaeth a rheoli gwrthdaro
  • Sgiliau rheoli busnes
  • Craffter ariannol i reoli cyllidebau, mynd i’r afael â rhagolygon ariannol, deall datganiadau ariannol a defnyddio metrigau busnes
  • Gallu amlwg i weithredu ar strategaethau, datblygu rhaglenni, blaenoriaethu ac arwain newid
  • Gwybodaeth am yr RSPB a’i genhadaeth
  • Gwybodaeth gadarn a phrofiad amlwg o arbenigeddau swyddogaethol
  • Profiad o arwain a datblygu timau mawr, amlddisgyblaethol
  • Profiad o arwain heb awdurdod rheoli llinell uniongyrchol ac arweinyddiaeth hwyluso
  • Profiad o osod safonau a rheoli systemau

Sgiliau dymunol:

  • Cymwysterau proffesiynol ym maes codi arian, ymgysylltu neu gyfathrebu ac aelodaeth o gyrff proffesiynol perthnasol
  • Profiad o nawdd masnachol, partneriaethau corfforaethol neu ddyngarwch

Mae hon yn swydd barhaol amser llawn am 37.5 awr yr wythnos. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod wedi’i leoli unrhyw le yng Nghymru a bydd disgwyl iddo fynd i swyddfeydd RSPB Cymru yn rheolaidd. Disgwylir y bydd angen teithio ymhellach hefyd.

Rydyn ni’n bwriadu cynnal cyfweliadau Teams ar-lein am y swydd hon Dydd Mawrth 25 Tachwedd, gyda’r cyfweliadau terfynol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd Dydd Iau 11 Rhagfyr.

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais i ddangos sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a restrir uchod, a chynnwys eich lefelau sgiliau yn unol â’r Matrics Gallu Ieithyddol yn eich cais. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon cysylltwch â karen.harvey@rspb.org.uk.

Cyn gwneud cais am y rôl hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y nodiadau canllaw i ymgeiswyr sydd ynghlwm ar frig yr hysbyseb hon.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais

Sut i wneud cais