Darlithydd Ymarferydd Sgiliau Clinigol (Maes Oedolion) : Prifysgol Aberystwyth

Graddfa Cyflog: £42,254.39 – £46,048.78 y flwyddyn (pro rata)

Math o Gytundeb: Parhaol, Rhan Amser

Oriau Wythnosol: 15 hours

Dyddiad Cau: 18/11/2025

Dogfennau: Disgrifiad Swydd

Y rôl

Dyddiad cyfweliad arfaethedig – 16 Rhagfyr

Cyfle cyffrous sydd wedi codi ar gyfer ‘Darlithydd Ymarferydd Sgiliau Clinigol (Nyrs Gofrestredig Maes Oedolion)’ ym maes Addysg Gofal Iechyd i ymuno a Phrifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o’i genhadaeth ddinesig, mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi anghenion y gweithlu a’r gymuned ym Mid Cymru drwy gynyddu cyfleoedd i unigolion hyfforddi a gweithio ym maes gofal iechyd yn eu hardal leol. Drwy gydweithio’n agos â’r Byrddau Iechyd Lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, y nod yw dylunio a chyflwyno nifer o gyrsiau proffesiynol ym maes iechyd (ar lefelau cyn- a phost-gofrestru ac ym maes Datblygiad Proffesiynol Parhaus), gan gynnwys graddau BSc mewn Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl cyn-gofrestru – llawn amser a rhan-amser, y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer Nyrsio (Maes Oedolion), a Thystysgrif Lefel 4 mewn Astudiaethau Gofal Iechyd. Mae’r ddwy swydd gyffrous hyn ar gyfer 2 ddiwrnod yr wythnos (diwrnodau penodedig), gan alluogi ymarferwyr i barhau i weithio o fewn eu rolau ymarfer clinigol.

Daw’r weledigaeth hon ar adeg amserol gyda chyflwyno llwybrau newydd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a rhaglenni a gomisiynwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio eu hastudiaethau yn Aberystwyth ym Medi 2022 ac maent eisoes wedi cwblhau’n llwyddiannus fel nyrsys cofrestredig.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Prif Arweinydd a Phennaeth Addysg Gofal Iechyd i ddylunio a chyflwyno darpariaeth newydd ym maes sgiliau clinigol a threialu efelychiadau, gan weithio ochr yn ochr â’r arweinydd sgiliau clinigol a’r arweinydd efelychu ar gyfer rhaglenni Lefel 4, graddau Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl cyn-gofrestru, a rhaglenni Dychwelyd i Ymarfer. Bydd y rhaglenni’n cael eu datblygu drwy gyfrwng y Saesneg a’r Gymraeg.

I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch ag Amanda Jones – Prif Arweinydd a Phennaeth Addysg Gofal Iechyd: amj36@aber.ac.uk

Rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cadarnhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 – 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:

  • Dysgu (ar y safle) ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â gofal iechyd ar gyfer sgiliau clinigol ac efelychu fel aelod o’r tîm addysgu Addysg Gofal Iechyd ym maes nyrsio oedolion
  • Gweithio fel cydlynydd modiwl, rheoli modiwlau a chydlynu gwaith cydweithwyr lle bo angen wrth ddatblygu sgiliau clinigol a gweithgareddau efelychu
  • Herio meddwl, meithrin trafodaeth a datblygu gallu’r myfyrwyr i ymgysylltu mewn dadl feirniadol a meddwl rhesymegol
  • Cydweithio â rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr academaidd ar ddatblygiad a newidiadau i’r cwricwlwm a’r modiwlau
  • Chwilio’n weithgar am gyfleoedd i gynllunio, dylunio a chyflwyno CPD gofal iechyd ar y cyd i amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol
  • Sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau proffesiynol personol yn gyfredol ac yn bodloni gofynion ail-ddilysu, a chynnal cofrestriad proffesiynol ar ran berthnasol o gofrestr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB)
  • Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Sgiliau Clinigol, Arweinydd Efelychu a’r technegydd Sgiliau Clinigol ac Efelychu
  • Gweithio fel asesydd academaidd (lle bo angen) a darparu cymorth o safon uchel i fyfyrwyr a staff clinigol mewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu ymarfer
  • Rheoli’n weithgar gyfleoedd dysgu lleoliadau a chapasiti ar gyfer myfyrwyr nyrsio
  • Gweithredu yn unol â Chod yr CNB bob amser, gan sicrhau bod y gwerthoedd a’r egwyddorion yn cael eu cynnal
  • Defnyddio Cod yr CNB i helpu myfyrwyr ddeall beth mae’n ei olygu i fod yn weithwyr proffesiynol cofrestredig a sut mae cadw at y Cod yn helpu i gyflawni hynny
  • Gweithio fel model rôl o ran ymddygiad proffesiynol i fyfyrwyr, cynnal uniondeb ac arweinyddiaeth i eraill ymdrechu tuag atynt
  • Cyhoeddi a rhannu tystiolaeth o ysgolheictod sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn llyfrau, erthyglau a/neu bapurau mewn cyfnodolion academaidd
  • Cyfathrebu deunydd arbenigol neu natur dechnegol iawn o fewn arbenigedd ymarferydd
  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd grŵp pwnc
  • Nodi anghenion dysgu myfyrwyr a darparu addysgu priodol i ddiwallu’r gofynion
  • Cysylltu â chydweithwyr a myfyrwyr. Adeiladu cysylltiadau mewnol a chymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a ffurfio perthnasau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Ymuno â rhwydweithiau allanol i rannu gwybodaeth a syniadau
  • Gallai fod disgwyl goruchwylio prosiectau, gwaith maes a lleoliadau myfyrwyr
  • Datblygu deunyddiau addysgu, dulliau a dulliau gweithredu priodol
  • Cynllunio a rheoli addysgu, ysgolheictod a thasgau gweinyddol eich hun
  • Darparu asesu priodol a goruchwyliaeth ar waith myfyrwyr a rhoi adborth adeiladol gyda chefnogaeth staff uwch
  • Defnyddio sgiliau gwrando, rhyngbersonol a gofal bugeiliol i ymdrin â materion sensitif sy’n ymwneud â myfyrwyr a darparu cymorth. Gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a’u hamgylchiadau. Gweithio fel tiwtor personol, gan roi cymorth llinell gyntaf
  • Dysgu fel aelod o dîm addysgu mewn gallu datblygu o fewn rhaglen astudio sefydledig, gyda chymorth mentor os oes angen. Addysgu mewn gallu datblygu mewn amrywiaeth o leoliadau o diwtorialau grŵp bach i ddarlithoedd mawr. Trosglwyddo gwybodaeth ar ffurf sgiliau ymarferol, dulliau a thechnegau
  • Myfyrio ar ymarfer a datblygu sgiliau addysgu a dysgu eich hun
  • Meddu ar ddigon o led neu ddyfnder o wybodaeth arbenigol yn y ddisgyblaeth i weithio o fewn rhaglenni addysgu sefydledig
  • Darparu cymorth i aelodau newydd o’r tîm
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa’r swydd. 
  • Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn ôl y cyfarwyddyd, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n gymesur â’r rôl, fel y’u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
  • Dangos hyblygrwydd trwy gefnogi cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith. 
  • Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn eich datblygu’ch hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.
  • Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r rôl, gan hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth. Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion cyfrifol a chyfranogi’n briodol.  

Nid yw’r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r rôl hon. 

Mae cyfrifoldebau’r swydd wedi cael eu paru â’r Proffil Swydd Academaidd [Addysgu ac Ysgolheictod 2]. Gellir gweld manylion am broffil y swydd yma: Proffil Academaidd  : Adnoddau Dynol , Prifysgol Aberystwyth

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau sy’n ofynnol

Hanfodol

  1. Nyrs Cofrestredig- Maes Oedolion gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU
  2. Gradd nyrsio
  3. Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  4. Profiad clinigol helaeth o weithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau fel Nyrs Gofrestredig
  5. Profiad cyfredol mewn lleoliad clinigol a/neu efelychiad wedi’i dystio drwy’r cais
  6. Profiad o addysgu, goruchwylio ac asesu myfyrwyr gofal iechyd mewn lleoliad clinigol ac addysg
  7.  Arbenigedd clinigol yn eu maes
  8. Gwybodaeth fanwl am safonau’r CNB newydd ar gyfer addysg nyrsio cyn-cofrestredig
  9.  Dealltwriaeth fanwl o gwricwlwm a dogfennaeth graidd ‘Unwaith i Gymru’ 2020
  10.  Gwybodaeth fanwl am ddulliau gwahanol o addysgu a dysgu mewn gofal iechyd
  11.  Sgiliau cyfathrebu uwch
  12.  Sgiliau Cyflwyniad Ardderchog
  13.  Sgiliau addysgu a hwyluso rhagorol
  14.  Sgiliau hyfforddi
  15.  Rhaid bod â thrwydded yrru gyfredol yn y DU oherwydd ymweliadau clinigol (angen cyflwyno tystiolaeth o fewn y cais)
  16. Parodrwydd i deithio
  17. Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig A0.*
    Gallu deall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd ar waith i gefnogi gweithio yn ddwyieithog.

Dymunol

  1. Gradd Meistr mewn pwnc perthnasol neu barodrwydd i weithio tuag ati
  2. Doethuriaeth neu barodrwydd i weithio tuag ati
  3. Cymrodoriaeth HEA
  4. Cymhwyster addysgu neu barodrwydd i weithio tuag ato
  5. Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
  6. Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig B2.*

*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/ 

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy’n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Dylid gwneud cais am y swydd wag hon trwy jobs.aber.ac.uk.   Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg, a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i’n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais