1) Cydlynydd Prosiect a 2) Hwylusydd Creadigol (Clwb dydd Sadwrn) : Storyopolis
Dyddiad dechrau: Ionawr 2026
Termau: Contract llawrydd tymor penodol yn cynnwys 38 diwrnod y flwyddyn, rhan amser.
Oriau: 10am – 1pm. Dydd Sadwrn
Ffi: £33.00 yr awr (Cydlynydd Prosiect)
£25.00 yr awr (Hwylusydd Creadigol)
Lleoliad: Mae Storyopolis wedi’i leoli yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.
Amlinelliad o’r rôl
Gan gydweithredu’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Prosiect, Tim Barcup a Laura Webb, a’n hwylusydd Creadigol, eich rôl fydd arwain ar weinyddu a chydlynu rhaglen eang Storyopolis o weithgareddau’n seiliedig ar lythrennedd sy’n cael eu darparu yn ein Clwb Dydd Sadwrn. Bydd gennych gyfle i lywio cyfeiriad y prosiect arloesol hwn fel ei fod yn parhau i roi budd i blant a phobl ifanc Abertawe sydd fwyaf ei angen ar gyfer y dyfodol.
Cefndir Storyopolis
Mae Storyopolis yn brosiect llythrennedd plant gwahanol. Fel menter hyfyw sydd wedi’i lleoli ynghanol y ddinas, mae Storyopolis yn darparu fframwaith arloesol ar gyfer ysgolion a theuluoedd o ardaloedd lle ceir amddifadedd cymdeithasol-economaidd a diwylliannol, er mwyn ymgysylltu gyda gweithgareddau o safon uchel a chodi’r hyder, y sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd plant a phobl ifanc, gan eu grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn y byd.
Rydym yn cydweithredu gydag ystod eang o artistiaid a sefydliadau gan weld ‘llythrennedd’ fel maes eang iawn. Rydym wedi gweithio gyda Rufus Mufasa, Cynan Jones, Swansea Comic Collective a Helen a Thomas Docherty, ymysg eraill, ac mae gweithgareddau blaenorol wedi cynnwys ysgrifennu llyfrau, darluniadu, barddoniaeth perfformio, ysgrifennu sgriptiau, rap, newyddiaduraeth a ffuglen fer. Rydym yn credu mai’r mwyaf o ffyrdd y gallwn fynd at lythrennedd, yna y mwyaf o botensial sydd er mwyn i ni fodloni anghenion amrywiol y plant sy’n cyfranogi ac yn eu galluogi i ddatblygu eu lleisiau creadigol unigryw eu hunain.
Yn wreiddiol, roedd Storypolis yn un o brosiectau sylfaenol Theatr Volcano a rhaglen ‘From the Station to the Sea’ Coastal Housing a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae ac mae nawr wedi derbyn arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddarparu ein Clwb Dydd Sadwrn am 3 blynedd arall. Gan ddechrau ym mis Ionawr 2026, bydd y cam hwn yn ymgorffori ac adeiladu ar flynyddoedd blaenorol, gan ddatblygu sut mae Storypolis yn darparu ei gylch gorchwyl, ehangu ei rwydwaith o gydweithredwyr a darparu profiadau o safon uchel i bobl ifanc.
Cynhelir y Clwb Dydd Sadwrn bob wythnos yn ystod y tymor o 10:30 hyd 12:30 ar gyfer pobl ifanc 8-14 oed. Mae sesiynau’n cael eu harwain gan hwylusydd creadigol a does dim angen i rieni aros, gan roi rhyddid ac annibyniaeth i rai sy’n mynychu a galluogi i rieni gael dwy awr o ofal plant am ddim. Rydym yn darparu amrywiaeth o snaciau math brecwast – potiau uwd, ffrwythau ffres ac ati – a thrwy hynny gynnig darpariaeth clwb-brecwast. Bydd pob bloc hanner tymor yn cynnwys sesiwn gan artist gwadd o’r gymuned leol fydd yn arwain gweithgaredd creadigol naill ai o amgylch sgil penodol neu ddiwylliant penodol neu ddigwyddiad diwylliannol megis y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Eid, Diwali ac ati, gan dynnu ar sgiliau, profiadau ac amrywiaeth ein cymuned leol. Bydd gweddill pob hanner tymor yn canolbwyntio ar y pwnc/sgil a rennir, ochr yn ochr gyda gweithgareddau llythrennedd llai strwythuredig gan gynnwys gemau bwrdd, mynediad agored at ein llyfrgell ar y safle a’n deunyddiau crefftau a chreadigol.
“Mae creu stori’n bwerus.” – Disgybl Blwyddyn 4
“Roedd y syniadau’n llifo ac roedd y plant yn ymateb.” – Clare Harvard, Athrawes Blwyddyn 4
“Roedd y digwyddiad gyda’r gorau rydym wedi bod yn rhan ohono” – Pete Taylor, Swansea Comics Collective
Ynghylch y Rôl : Cydlynydd Prosiect
Mae Storyopolis yn cael ei arwain gan y Cyfarwyddwyr Prosiect Tim Batcup a Laura Webb, wedi’u cefnogi gan y tîm yn Theatr Volcano. Bydd y cydlynydd prosiect yn gweithio’n agos gyda’r ddau er mwyn rhannu cyfrifoldeb am bob agwedd o ddarpariaeth y prosiect, gan gynnwys:
- Dylunio rhaglen, rheoli a gweinyddiaeth.
Dyfeisio ac amserlennu rhaglen Clwb Dydd Sadwrn, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdai un tro, cysylltu gydag artistiaid a phartneriaid eraill fel mae’n angenrheidiol; trefnu ad-daliadau cludiant lle mae angen; sicrhau deunyddiau; ysgrifennu asesiadau risg.
- Rheoli cyllideb
Monitro gwerthiant a chysoni cyfrifon.
Cysylltu gyda Swyddog Cyllid Volcano Sarah Dow.
- Marchnata
Gweithio gyda Theatr Volcano er mwyn marchnata’r gweithgaredd yn briodol, gan gynnwys cynnal proffil y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol a’i wefan, rheoli’r gronfa ddata e-bost, a threfnu dosbarthu taflenni; cysylltiadau gyda’r wasg; dylunio argraffu.
- Gwerthuso
Monitro gweithgaredd, casglu a chrynhoi data meintiol ac ansoddol (gan gynnwys astudiaethau achos) yn unol gyda gofynion arianwyr; ysgrifennu adroddiadau.
- Gwirfoddolwyr
Rheoli carfan fechan o wirfoddolwyr er mwyn cefnogi darparu’r weithgaredd
Manyleb person
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd gyrfa gynnar neu ganolig sy’n gallu arddangos profiad a sgiliau yn y meysydd uchod. Mae llythrennedd TG yn hanfodol a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rinweddau llythrennedd fel dylanwad positif ar fywydau pobl ifanc a brwdfrydedd dros brosiectau sy’n creu budd cymdeithasol. Bydd angen i’r person iawn fod yn gallu gweithio yr un mor hapus ar ei ben ei hun ag fel rhan o dîm, ac mae’n bwysig i ni eich bod yn mynegi eich hun yn dda mewn ffordd gynnes, gyfeillgar, hyderus, gydwybodol ac yn hynod o drefnus.
Ynghylch y Rôl (Hwylusydd Creadigol)
Mae Storyopolis yn cael ei arwain gan y Cyfarwyddwyr Prosiect Tim Batcup a Laura Webb, wedi’u cefnogi gan y tîm yn Theatr Volcano. Bydd y cydlynydd prosiect yn gweithio’n agos gyda’r ddau er mwyn rhannu cyfrifoldeb am bob agwedd o ddarpariaeth y prosiect, gan gynnwys:
- Dylunio rhaglen, rheoli a gweinyddiaeth.
Mewnbwn creadigol ar ddyfeisio rhaglen Clwb Dydd Sadwrn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: weithdai untro, cysylltu gydag artistiaid a phartneriaid eraill pan mae’n angenrheidiol; sicrhau deunyddiau. Rôl creu fydd gennych, yn goruchwylio gweithgareddau, arwain gweithgareddau a bod ar gael i’r rhai sy’n mynychu’r clwb. Cynnal grŵp What’s App Clwb Dydd Sadwrn er mwyn cysylltu gyda rhieni ynghylch presenoldeb a threfniadau cyffredinol.
- Gwerthuso
Monitro gweithgareddau, casglu data meintiol ac ansoddol, adrodd hyn yn ôl i Gydlynydd y Clwb ar gyfer ei ddadansoddi a’i gasglu ynghyd.
- Gwirfoddolwyr
Rheoli a goruchwylio carfan fechan o wirfoddolwyr er mwyn cefnogi darparu’r gweithgareddau.
Manyleb person
Rydym yn chwilio am berson sy’n creu sydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa sy’n gallu arddangos profiad a sgiliau yn y meysydd canlynol. Mae llythrennedd TG yn hanfodol a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rinweddau llythrennedd fel dylanwad positif ar fywydau pobl ifanc a brwdfrydedd dros brosiectau sy’n creu budd cymdeithasol. Bydd angen i’r person iawn fod yn gallu gweithio yr un mor hapus ar ei ben ei hun ag fel rhan o dîm, ac mae’n bwysig i ni eich bod yn yn mynegi eich hun yn dda, mewn ffordd gynnes, cyfeillgar, hyderus, cydwybodol ac yn hynod o drefnus.
Gwiriad DBS anghenrheidiol
Sut i Ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr cais (heb fod mwy na 2 ochr o A4) yn amlinellu eich diddordebau yn rôl a’ch addasrwydd ar ei chyfer, at laura@volcanotheatre.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 17 Tachwedd 2025 5:30pm
Os ydych yn cyrraedd y rhestr fer, bydd cyfweliadau yn Theatr Volcano ar 27ain Tachwedd a 4ydd o Ragfyr.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy laura@volcanotheatre.co.uk neu ffonio 01792 464790.
Cefndir Theatr Volcano
Mae Theatr Volcano wedi bod yn creu perfformiadau gyda thraweffaith gref ers dros 30 mlynedd, yn ogystal â dechrau prosiectau a’u rheoli yn amrywio o drawsffurfiadau adeiladau dros dro i wyliau, gweithdai preswyl, arddangosiadau, cyhoeddiadau a digwyddiadau cyhoeddus. Mae Volcano yn gwmni celfyddydol egnïol, ymatebol sy’n symud yn gyflym er mwyn gwneud i bethau ddigwydd, ysbrydoli eraill a gosod syniadau mawr ar waith.
Gwefan Storyopolis


