Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith – Iechyd a Gofal Cymdeithasol : Coleg Cambria

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith – Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol: Llawn Amser

Cyflog: £ 33,912 – £38,218

Dyddiad cau: 28.11.25

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer nifer o Ymarferwyr Dysgu yn y Gwaith dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd yr ymarferydd yn asesu’r ystod lawn o gymwysterau yn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad Dyfarnu sy’n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr sydd wedi’i bennu gan fformiwla berthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal asesiad cychwynnol ar gyfer dysgwyr, cofrestru ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-1 neu weithdy (argymhellir maint grŵp mwyaf o 8)

Byddan nhw’n monitro cynnydd dysgwyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth cadarnhaol iddyn nhw a’u helpu i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.

Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios sydd wedi eu cwblhau ar gyfer prosesau sicrhau ansawdd mewnol.

Gofynion Hanfodol

  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gynnal asesiadau hyd at Lefel 5.
  • Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA).
  • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd neu yn fodlon gweithio tuag at hynny (Uned 401 TAQA ar hyn o bryd).
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch.
  • Meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu’n barod i weithio tuag at un.
  • Profiad amlwg yn y diwydiant mewn maes perthnasol proffesiynol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
  • Profiad o gysylltu a phartneru â rheolwyr allanol yn y diwydiant.
  • Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd mewn addysg.
  • Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau iaith Gymraeg lefel 2.


Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais

Sut i wneud cais