Syrfëwr Ystadau : Yr Eglwys yng Nghymru

Teitl Swydd
Syrfëwr Ystadau : Yr Eglwys yng Nghymru
Enw’r Cwmni
Yr Eglwys yng Nghymru
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£47,765 – £54,041 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 11/02/2026

Cyflog:  £47,765 – £54,041 y flwyddyn

Lleoliad:  2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd

Math o Gontract: Barhaol

Yn adrodd: Cyfarwyddwr y Strategaeth Eiddo

Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)

Pwrpas y Swydd

Mae’r Adran Gwasanaethau Eiddo, wrth gefnogi cenhadaeth yr eglwys, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyngor eang sy’n gysylltiedig ag eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr a’r Esgobaethau trwy ddatblygu a chynnal strategaeth rheoli eiddo effeithiol.

Mae’r Syrfëwr Ystadau yn gyfrifol am drefnu gwaith rheoli’r ystad dyranedig gan gynnwys gwerthu eiddo, prynu, gosod, hawddfreintiau, trwyddedau, anghydfodau ffiniau, cyfleoedd datblygu etc. ar draws y portffolio cyfan o eiddo a ddelir gan Gorff y Cynrychiolwyr.

Hanfodol

  • Syrfëwr Siartredig
  • Trwydded yrru lawn, glân, yn y DU
  • Profiad o reoli portffolio eiddo amrywiol a rheoli trafodion eiddo, yn enwedig gwerthu a gosod eiddo preswyl
  • Gwybodaeth weithredol gadarn ynghylch Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a gweithdrefnau Rhentu Doeth Cymru
  • Gwybodaeth a phrofiad cadarn o reoli eiddo, yswiriant a materion cysylltiedig
  • Cyfathrebwr rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Doethineb a diplomyddiaeth
  • Llythrennedd cyfrifiadurol.
  • Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru

Dymunol

  • Profiad o weithio i’r sectorau elusennol neu gyhoeddus.
  • Profiad amlwg o weithio drwy weithdrefnau a drefnir yn ddemocrataidd, e.e. systemau pwyllgorau a byrddau
  • Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system cadw ffeiliau
  • Dealltwriaeth o ddiben a strwythurau’r Eglwys yng Nghymru
  • Sgiliau Cymraeg/y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg

GWNEUD CAIS

I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’i danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol i’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk

Lawrlwytho

Crynodeb Swydd (Word)

Disgrifiad Swydd – (Word)

Ffurflen gais (Word)

Dyddiad cau

11 Chwefror 2026 am 10.00 am

Dyddiadau Cyfweliad

24 Chwefror 2026 yn bersonol yn Caerdydd

Rhagor o wybodaeth

Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Alex Glanville, HR@cinw.org.uk

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Sut i wneud cais