Swyddog Abergele a’r Ardal : Menter Iaith Conwy

Teitl Swydd
Swyddog Abergele a’r Ardal : Menter Iaith Conwy
Enw’r Cwmni
Menter Iaith Conwy
Lleoliad
Abergele
Cyflog
(£24,920.00) i (£30,095) a phensiwn
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/01/2026

Menter Iaith Conwy Swyddog Abergele a’r ardal

Ar dân dros y Gymraeg ? Cyfle i weithio i hybu’r Gymraeg yn Sir Conwy.

Oriau:  Swydd 21 Awr yr Wythnos

Cyflog: Rhwng NJC17-25 (£24,920.00) i (£30,095) a phensiwn

Lleoliad: Lleolir y swydd yn Abergele a’r ardal ond bydd disgwyl i chi weithio o Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst o leiaf diwrnod yr wythnos gyda hyblygrwydd i weithio o adref.

Cytundeb 2 flynedd i ddechrau.

Gwyliau: 24 diwrnod i ddechrau efo 1 diwrnod ychwanegol y flwyddyn am 2 flynedd. Dydd Gŵyl Dewi a rhwng Nadolig a Chalan yn ychwanegol.

Dyddiad Cau: Dydd Llun,9.00am 6 Ionawr 2026.

Cais drwy lythyr a CV.

Am swydd ddisgrifiad a mwy o fanylion ewch i; miconwy.cymru. meirion@miconwy.cymru neu ffoniwch 01492 642357

Sut i wneud cais