Ceidwad Cadw – Gorllewin Cymru (1 swydd llawn amser a 3 swydd ran-amser)
Rydym yn chwilio am sawl Ceidwad Cadw yn ardal Gorllewin Cymru. Os ydych chi ar dân dros dreftadaeth ac eisiau helpu pobl i fwynhau safleoedd hanesyddol, yna chi yw’r person i ni!
Ceidwaid Cadw yw wyneb ein busnes – yn croesawu’r cyhoedd, yn ymdrin â mynediad, yn eu helpu i fwynhau eu hymweliad yn ddiogel a dewis anrheg addas.
Bydd angen i chi fod yn barod am unrhyw beth ac i ateb cwestiynau cwsmeriaid – cwestiynau fel ‘pwy oedd yn byw yma?’, ‘pryd gafodd ei adeiladu?’ a’r pwysicaf oll efallai ‘ble mae’r tŷ bach?’
Lleoliad – Gorllewin Cymru
Swyddi ar gael
• 1 x Ceidwad, Castell Talacharn (14 awr haf a 0 awr gaeaf)
• 1 x Ceidwad, Castell Cydweli (23.25 awr haf a 18 awr gaeaf)
• 1 x Ceidwad, Llys yr Esgob, Tyddewi (31 awr haf a 24 awr gaeaf)
• 1 x Ceidwad, Llys yr Esgob, Tyddewi (llawn amser drwy’r flwyddyn)
Mae henebion ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Gall eich oriau gwaith ddisgyn ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos fel rhan o’r rota. Bydd gofyn i chi weithio rhai penwythnosau fel rhan o’r rôl. Talir cyfradd premiwm am weithio ar y penwythnos.
Gofynion y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, neu mae’n rhaid i’r ymgeisydd gytuno i ddysgu Cymraeg ar ôl ei benodi.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n awyddus i ddysgu’r Gymraeg i safon ofynnol ar ôl cael eu penodi’n geidwad.
Mae sawl opsiwn ar gael i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg, yn amrywio o hyfforddiant lefel mynediad i lefel hyfedredd. Ynghyd â gwersi wythnosol, mae cyrsiau ar-lein, hyfforddiant dwys a hyfforddiant preswyl ar gael yn ogystal â chymorth mentora ac offer dwyieithog i’ch helpu i fagu hyder wrth ddefnyddio’r iaith bob dydd. Bydd cynllun dysgu Cymraeg wedi’i deilwra i’ch sgiliau a’ch arddull ddysgu unigol yn cael ei ddatblygu ar ôl eich penodi i’ch helpu i gyrraedd nodau y cytunwyd arnynt.
Cyflog
Y cyflog cychwynnol fydd £27,302. Ni ellir trafod hyn.
Hefyd
• Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol
• Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Dyddiad cau: 16:00pm ar 09/01/2026
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

