Cynhyrchydd Gŵyl Ddigidol
Mae Music Theatre Wales (MTW) yn chwilio am Gynhyrchydd Gŵyl Ddigidol i arwain datblygiad a chyflwyniad Gŵyl Opera Ddigidol gyntaf Caerdydd ym mis Mawrth 2027.
Rydym angen rhywun sy’n frwdfrydig am bosibiliadau creadigol technoleg ddigidol, ac sy’n ffynnu ar ddod â phartneriaid, artistiaid, lleoliadau a chynulleidfaoedd ynghyd i wireddu gwaith uchelgeisiol ac arloesol. Mae’r rôl hon yn ymwneud â llunio sut gall opera gael ei phrofi heddiw — ar sgriniau, mewn mannau cyhoeddus ac mewn digwyddiadau byw — a helpu opera ddigidol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.
Rydym am wybod beth allwch chi ei gynnig i’r Ŵyl. Efallai eich bod yn gynhyrchydd profiadol, yn reolwr prosiect, neu’n ymarferydd creadigol gyda chefndir mewn gwaith digidol, ymdrochol neu ar sgrin. Efallai bod gennych brofiad o weithio ar draws sawl partner a lleoliad, o reoli rhaglenni cymhleth, neu o gefnogi artistiaid i archwilio technolegau a fformatau newydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich bod yn angerddol dros arloesi yn y celfyddydau, yn hyderus wrth gyflawni gwaith o safon uchel, ac yn cael eich ysgogi gan y cyfle i ail-ddychmygu opera ar gyfer oes ddigidol.
Ffi – £19,500 ffi’r cytundeb cyfan
Oriau – I’w gytuno ar y cyd; oddeutu 4 diwrnod y mis ar gyfer y 7 mis cyntaf, gan gynyddu i tua 6 diwrnod y mis ar gyfer y 6 mis canlynol
Lleoliad – Hyblyg a hybrid; yn debygol o fod yn bennaf yn seiliedig gartref, gyda rhywfaint o waith yn swyddfeydd MTW yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (lle bydd mwyafrif yr Ŵyl yn cael ei chynnal)
Cytundeb – Cytundeb llawrydd o ddiwedd Chwefror 2026 (neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl y dyddiad hwn) hyd ddiwedd Ebrill 2027
Dyddiad cau – Dydd Gwener 13 Chwefror 2026 am 11yb
Cyfweliadau – w/c 23 Chwefror 2026
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais neu, gwnewch gais ar-lein Ffurflen Gais Google

