Cyfieithydd Cymraeg
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant, sydd ag agwedd hyblyg i arwain ein gwasanaeth cyfieithu mewnol yn y Gronfa.
Mae’r Gronfa’n sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Ein hegwyddor yw trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal drwy gynnig gwasanaeth dwyieithog i’n cwsmeriaid a’n deiliaid grant o ddydd i ddydd.
Byddwch yn gweithio’n annibynnol gyda nifer o dimau i sicrhau gwasanaeth cyfieithu effeithiol a chywir i’r sefydliad cyfan. Byddwch yn sicrhau bod ein holl ddeunyddiau ar-lein ac all-lein, gan gynnwys tudalennau gwe newydd, cyhoeddiadau a mentrau corfforaethol, yn cael eu cyfieithu o fewn terfynau amser.
Byddwch yn cydweithio’n agos â Swyddog y Gymraeg i sicrhau bod y Gronfa’n bodloni ei gofynion statudol cyfreithiol i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’n Gymraeg yn rhugl a hyderus yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad y Cyfweliad: i’w gadarnhau
Fformat: Rhithiol/Wyneb yn wyneb
Lleoliad: Hybrid, Swyddfa Caerdydd neu’r Drenewydd
Mae dull hybrid gennym tuag at weithio a gellir lleoli’r rôl hon yng Nghaerdydd neu’r Drenewydd, ynghyd â gweithio gartref.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl yn benodol, cysylltwch â: Gareth.Hughes@tnlcommunityfund.org.uk
Unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio, anfonwch e-bost at: recruitment@tnlcommunityfund.org.uk
Sut i ymgeisio
Uwchlwythwch eich CV ar fformat Word ac ysgrifennwch ddatganiad ategol (1000 o eiriau) gyda’r meini prawf canlynol. Byddwn yn defnyddio hwn i sgorio eich cais.
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gyfwerth yn y Gymraeg / Gradd neu gyfwerth drwy gyfrwng y Gymraeg
- Profiad o weithio fel cyfieithydd, gan weithio’n gywir o fewn terfynau amser tynn
- Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i brawfddarllen dogfennau i safon uchel o gywirdeb yn y Gymraeg a’r Saesneg
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gydlynu systemau a phrosesau a datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol i alluogi cydweithrediad ar draws y Gronfa
- Dealltwriaeth gref o bwysigrwydd brand dwyieithog ar draws y cymysgedd cyfathrebu
- Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu’n fodlon gweithio tuag at y cymhwyster hwn
- Ymwybyddiaeth o gefndir ac amcanion gofynion presennol y Gymraeg o ran Deddfwriaeth, Fframweithiau a Safonau
Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob lliw a llun. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – felly, rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.
Rydym hefyd yn credu y dylai ein pobl gynrychioli’r cymunedau, sefydliadau ac unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn lle gwych i weithio. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r ffaith bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn croesawu’n gadarnhaol geisiadau gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig, pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirsefydlog, pobl LHDTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol gwahanol, yn ogystal â phobl o bob oed.
Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at wneud addasiadau rhesymol, os oes angen, drwy gydol y broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. (Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflwr iechyd corfforol a meddyliol.)

