Aelod: Pwyllgor Archwilio a Risg
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer dau aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.
Rôl y Pwyllgor
Mae’r Comisiynydd, fel Swyddog Cyfrifyddu Comisiynydd y Gymraeg, wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio a Risg (“y Pwyllgor”) sef pwyllgor o aelodau annibynnol, anweithredol i ddarparu cyngor gwrthrychol a diduedd ynghylch risg, rheolaeth a llywodraethiant.
Rydym yn chwilio yn arbennig am bobl sydd â phrofiad o systemau technegol a risgiau seibr, neu sydd â phrofiad rheoli ar lefel uwch, yn benodol ym maes Adnoddau Dynol. Fodd bynnag, byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad.
Mae dyletswyddau aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys craffu ar y canlynol a’u herio:
– trefniadau rheolaeth ariannol;
– rheolaethau mewnol a systemau rheoli risg;
– trefniadau o ran cydymffurfio, chwythu’r chwiban a thwyll;
– archwilio mewnol;
– archwilio allanol;
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys tri aelod annibynnol anweithredol, a’r Cadeirydd.
Ceir gwybodaeth ynglŷn â Chomisiynydd y Gymraeg ar y wefan gorfforaethol: Comisiynydd y Gymraeg
Pwrpas y swydd
Prif bwrpas y swydd, sef bod yn aelod o’r pwyllgor, yw rhoi cyngor a chefnogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd yr aelodau yn mynychu ac yn cymryd rhan lawn yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Efallai y bydd angen mynychu cyfarfodydd eraill megis hyfforddi a datblygu yn ogystal â gweithgareddau eraill yn ôl gofyn y Comisiynydd.
Manyleb y person
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y canlynol:
- profiad o weithio ar lefel bwrdd neu dim rheoli, un ai yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat;
- profiad o’r amgylchedd rheoleiddio, archwilio a risg;
- profiad o ddarparu cyngor clir, diduedd ar risg, rheoli a llywodraethu;
- profiad o gyrraedd amcanion corfforaethol a gwasanaethau;
- dealltwriaeth o rôl y Comisiynydd a materion sydd yn effeithio ar yr iaith Gymraeg;
- y gallu i siarad y Gymraeg;
- sgiliau datrys a dadansoddi datblygedig;
- y gallu i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth;
- y gallu i gydweithio’n llwyddiannus mewn tîm;
- Byddai arbenigedd mewn rheoli systemau technegol a diogelwch seibr, neu brofiad o rheoli ar lefel uwch yn benodol ym maes Adnoddau Dynol yn sgiliau dymunol i’w cael.
Cyfnod y Penodiad
Bydd y penodiad am gyfnod o dair blynedd yn gychwynnol. Yn amodol ar ofynion deddfwriaeth, gellir adnewyddu’r swydd am ail dymor yn unig, os yw perfformiad yn foddhaol.
Ymrwymiad ac Amser
Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn. Gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol yn ôl y galw. Disgwylir presenoldeb rheolaidd yn y cyfarfodydd hyn.
Taliadau cydnabyddiaeth a chostau
Bydd aelodau’r Pwyllgor yn derbyn ffi ar gyfer mynychu cyfarfodydd ac ar gyfer gwaith paratoadol cyn y cyfarfodydd a fydd yn cyfateb i £198 y dydd (pro rata).
Bydd unrhyw gostau yn rhinwedd eich swyddogaethau ar y Pwyllgor yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth Comisiynydd y Gymraeg.
Ymgeisio
Dylid anfon CV, a llythyr eglurhaol gan nodi’r hyn y gallwch ei gynnig i’r swydd a’r modd yr ydych yn cyd-fynd â’r meini prawf a nodir ym manyldeb y person, gan amlinellu unrhyw wybodaeth berthnasol, sgiliau a phrofiad. Wrth gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich cais, dylid cyfeirio at enghreifftiau pan ydych wedi defnyddio / dangos eich sgiliau yn eich amgylchedd busnes neu mewn unrhyw gyd-destunau eraill.
Dylid anfon yr wybodaeth at swyddi@cyg-wlc.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18:00 – Dydd Sul 22 Chwefror 2026
Noder:
Nid yw’r swyddi yn agored i gyflogeion presennol Comisiynydd y Gymraeg.
Bydd angen i Gomisiynydd y Gymraeg dderbyn tystlythyrau derbyniol.

