Pennaeth Ariannol
EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU
Swyddfa’r Gymanfa
Pennaeth Ariannol
Cefndir – Mae’r Eglwys yn ceisio gwasanaethu cymunedau yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig trwy gyfrwng mwy na 440 o gynulleidfaoedd a thros 12,000 o aelodau sy’n perthyn i’r Eglwys. Trwy fywyd a thystiolaeth yr eglwysi hyn, ein Gweinidogion, ein Gweithwyr Gweinidogaethau a’n Canolfan Plant ac Ieuenctid a’n Canolfan Hyfforddi Lleygwyr, rydym yn ymdrechu i geisio model gwaith cyd-destunol a chyfredol sy’n anelu at ddod â gobaith, goleuni a dylanwad yr Efengyl i rym ar ein cenhedlaeth.
Mae’r Eglwys yn credu y dylem sicrhau Pennaeth Ariannol sydd â chyfrifoldeb penodol am gynghori ar stiwardiaeth ariannol yr Eglwys.
Oriau: 35 awr yr wythnos.
Cytundeb: Parhaol gyda chyfnod prawf o 6 mis.
Cyflog: 58-62 (£47,660–£50,028 pro rata), ar raddfa cyflog EBC.
Mae cyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn EBC.
Lleoliad: Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn swyddfa’r Gymanfa, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac o gartref.
Mae’r swydd hon yn amodol ar ddau eirda boddhaol.
Mae Gofyniad Galwedigaethol Cristnogol dymunol yn berthnasol i’r swydd hon – gweler y ‘cefndir’ uchod.
Am ragor o wybodaeth, ac am ffurflen gais, cysylltwch â:- e-bost – swyddfa.office@ebcpcw.cymru
Ffôn – 02920 627 465
Dyddiad cau: 24 Chwefror, 2026 am 4yp

