Swyddog Datblygu Cymunedol
Cyflog: £27,254 – £29,540
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfa’r Fenter yn Suite 15, Porth Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Caerffili, CF82 7EH
Ydych chi’n chwilio am her newydd? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn edrych am berson trefnus a brwdfrydig gyda syniadau newydd er mwyn datblygu defnydd o’r Gymraeg ar draws Sir Caerffili. Byddwch yn cydweithio â sefydliadau, partneriaethau cymunedol, ysgolion, colegau, busnesau ac unigolion amrywiol yn ogystal ag ymchwilio i ddiddordebau ac anghenion trigolion y Sir. Fe fydd y swydd yn gofyn eich bod yn datblygu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau cymunedol ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion Sir Caerffili yn ogystal â threfnu digwyddiadau cymunedol.
Mi fydd y person delfrydol yn hunan disgybledig, yn gyfathrebwr/wraig da, gyda sgiliau personol ardderchog ac yn meddu ar y gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.
Dyddiad Cau: Chwefror 26ain am 17:00
Dyddiad Cyfweliadau: Mawrth 9fed
Danfonwch y ffurflen gais dros ebost at Lowri Jones: lowrijones@mentercaerffili.cymru
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lowri Jones ar 01443 820913/ lowrijones@mentercaerffili.cymru
Cyllidir y swydd gan Lywodraeth Cymru


