Arbenigwr Adfer Mawndiroedd

Teitl Swydd
Arbenigwr Adfer Mawndiroedd
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Cyflog
£42,662 – £46,662
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 01/03/2026

Y rôl

Os ydych chi’n cael eich ysgogi gan waith maes heriol, gweithio yn yr awyr agored, a’r wobr o weld newid go iawn, bydd y rôl hon yn addas iawn i chi. Fel Arbenigwr Adfer Mawndiroedd yn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, byddwch yn treulio amser yn rhai o dirweddau gwylltaf Cymru—yn aml yn wlyb, yn aml yn fwdlyd, a phob amser yn werth chweil. P’un a fyddwch chi’n llywio drwy dir grug dwfn, yn ymdrin â thir corsiog, neu’n gweithio yng nghanol glaw di-baid Cymru, byddwch chi’n gwneud hynny gyda phwrpas: adfer mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer gwydnwch hinsawdd, bioamrywiaeth a rheoli dŵr.

Byddwch chi’n gweithio ar brosiectau o’r cysyniad i’r cam cwblhau, gan ddatblygu manylebau technegol, sicrhau caniatâd, rheoli cyllidebau, a goruchwylio contractwyr i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel. Bydd eich gwaith yn cynnwys mapio, arolygu a dylunio ymyriadau adfer ar draws tir a reolir gan CNC a safleoedd preifat, gan ddarparu cyngor arbenigol i gydweithwyr, partneriaid, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid. Byddwch hefyd yn cyfrannu at y gwaith o fonitro, adrodd a rhannu gwybodaeth wrth i Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd barhau i ehangu, gan adeiladu portffolio treigl o brosiectau ar wahanol gamau o gynnydd.

Mae hwn yn waith cadwraeth ymarferol ym mhob ystyr – mae’n waith heriol, amrywiol, a bydd yn cael effaith fawr. Dyma’ch cyfle i chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael ag argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, gan weithio gyda thîm angerddol ar draws rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw. Mae angen teithio i swyddfeydd amrywiol ac yn aml i leoliadau anghysbell na ellir eu cyrraedd heb y gallu i yrru, felly mae trwydded yrru lawn a chyfredol yn hanfodol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nick Young at nick.young@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 11 – 18 Mawrth 2026 ar Microsoft Teams

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a chydlynu cyngor a chyfarwyddyd technegol arbenigol o amrywiaeth o ffynonellau; sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar farn dechnegol gadarn yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r arferion gorau.
  • Gweithio gydag aelodau eraill o dîm y prosiect, staff eraill CNC a rhanddeiliaid allanol i gynllunio a datblygu’r rhaglen fanwl o waith adfer safleoedd, gan asesu’r gofyniad technegol ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau adfer a llunio’r manylebau technegol at ddefnydd y contractwyr.
  • Gweithio gyda’r swyddog grantiau a chaffael yn y Rhaglen Mawndiroedd i dendro a gosod prosiectau mewn modd amserol ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC.
  • Ymgymryd â’r gwaith o oruchwylio contractwyr yn y maes, gan sicrhau cysylltiad â pherchnogion/meddiannwyr, staff eraill CNC a staff partneriaid.
  • Sicrhau bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol ar gyfer cyflawni prosiect ar waith, gan gynnwys (pan fo’n berthnasol) cydsyniadau rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, cydsyniadau SoDdGA, cydsyniadau cwrs dŵr cyffredin, cymeradwyaethau perygl llifogydd a chydsyniadau cynllunio.
  • Datblygu a rheoli nifer o gontractau, gan gynnwys contractau sy’n gorgyffwrdd ac sy’n cwmpasu pob agwedd ar y prosiect, gan sicrhau bod manylebau’r prosiect a’r ddarpariaeth yn gyson ac yn cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch a chyflawni prosiectau CNC, gan gynnwys glynu wrth y Rheoliadau (Dylunio a Rheoli) Adeiladu pan fo’n berthnasol.
  • Cefnogi staff eraill CNCyi ddylunio, caffael a rheoli contractau adfer mewn achosion pan fo’r staff hyn yn arwain ar gyflawni prosiectau.
  • Cadw cofnodion manwl o gynnydd mewn perthynas â gweithredu’r rhaglen i gefnogi adrodd.  Cyflwyno a rhannu canlyniadau a dysgu drwy adroddiadau ysgrifenedig a dulliau eraill.  
  • Cyfrannu’n rheolaidd at adroddiadau cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf dan arweiniad rheolwr y rhaglen.
  • Gyda chymorth staff eraill CNC a staff partneriaid, llunio profforma asesu a monitro prosiect safonol a’i hyrwyddo / rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn elwa ar asesiad sylfaenol safonol.
  • Mynd i gyfarfodydd rheolaidd y tîm a chymryd rhan ynddynt, a chefnogi arweinydd y tîm yng nghyfarfodydd y bwrdd prosiect a’r grŵp llywio.
  • Rheoli’r gyllideb a ddyrennir i elfennau prosiect yr ydych yn gyfrifol amdanynt a chynnal cydberthnasau â chyflenwyr trydydd parti er mwyn cyflawni gofynion gwerth am arian a phroffiliau gwariant.
  • Cefnogi’r partneriaid sy’n cael eu hariannu gan CNC i gyflawni eu prosiectau, gan gynnwys darparu cymorth technegol a logistaidd a chraffu ar ddulliau arfaethedig er mwyn sicrhau’r canlyniadau adfer gorau posibl.
  • Gweithio gyda staff y Tîm Amgylchedd a Rheoli Tir, tenantiaid a pherchnogion tir i helpu i gyflawni cytundebau rheoli.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. 
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon. 

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn pwnc perthnasol neu brofiad sylweddol yn y ddisgyblaeth.
  2. Aelodaeth o gorff proffesiynol, neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
  3. Gwybodaeth fanwl am gadwraeth ecosystemau mawndiroedd gyda phrofiad o asesu cyflwr safleoedd a gofynion adfer
  4. Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol, a phrofiad o ddefnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol i gynllunio a chofnodi gweithgareddau prosiect.
  5. Gwybodaeth a phrofiad o weithredu deddfwriaeth berthnasol Cymru, y DU a’r UE a gofynion caniatâd sy’n gysylltiedig â gweithio ar safleoedd gwarchodedig.
  6. Profiad o ddatblygu, caffael a rheoli prosiectau adfer gwaith daear cymhleth ar raddfa fawr, gan gynnwys llunio manylebau technegol, rheoli contractwyr a defnyddio rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol. Arbenigedd mewn cynllunio gwaith, cyllidebu a rheoli contractau.
  7. Profiad o gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth eang o bartneriaid, o reolwyr/perchnogion a deiliaid tir unigol hyd at bartneriaid strategol allweddol. 
  8. Y gallu i gydweithio ag eraill a gweithio’n annibynnol i gwrdd â safonau llywodraethu uchel, gan ddangos menter bersonol a sgiliau trefnu da.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel B1 – Canolradd

Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref. 

Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion. 

Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
203778

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.