Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd
Lleoliad Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Gradd / Amrediad cyflog 8: £54,212 – £59,873
Patrwm gwaith: Llawn amser (37 awr y wythnos)
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 22/03/2026
Y rôl
Camwch i rôl â gwir effaith. Fel Arweinydd Tîm, byddwch yn arwain tîm angerddol o ddeg wrth hyrwyddo Cynllun Corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae hwn yn ardal unigryw o amrywiol—cartref i nodweddion eiconig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Moel Famau, Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Berwyn, cynefinoedd arfordirol godidog, a chanolfannau diwydiannol allweddol. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws CNC a rhwydwaith eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau llygredd, mynd i’r afael â newid hinsawdd, a gwella bioamrywiaeth ar raddfa tirwedd. Byddwch yn cyflawni ac yn dylanwadu ar flaenoriaethau pwysig, o Ddatganiadau Ardal i amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth arwain a chefnogi eich tîm ehangach i ragori. Gyda chyfrifoldeb am oruchwylio cyllideb, perfformiad, a chyflawni canlyniadau strategol, mae hwn yn gyfle i lunio gweithredu amgylcheddol lle y mae bwysicaf.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd CNC o fewn yr ardal/lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Elsie Grace at Elsie.Grace@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb wythnos yn cychwyn 30/03/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref.
Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion.
Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i:https://www.gov.uk/skilled-worker-visa
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain y tîm a chymryd cyfrifoldeb llawn am eu perfformiad, eu datblygiad a’u llesiant.
- Arwain y gwaith o ymgorffori Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn eich lle, gan gydweithio’n agos â’r rheolwyr ac arweinwyr tîm sy’n adrodd i’r Pennaeth Lle; gosod blaenoriaethau ac agendâu cyflawni ar draws swyddogaethau CNC.
- Gweithio ar y cyd â Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth, Cynllunio Corfforaethol, Pennaeth Lle, rheolwyr, a thimau lle eraill.
- Cymryd cyfrifoldeb llawn am gyd-gynhyrchu, monitro ac adolygu cyflawni Datganiad Ardal a chynllun lle cwbl integredig, wedi’i flaenoriaethu ac ag adnoddau digonol ar gyfer y Pennaeth Lle.
- Dylanwadu a thrafod â phartneriaid allanol i ddatblygu agendâu a phrosiectau i gyflawni blaenoriaethau Datganiad Ardal a llesiant.
- Cynrychioli’r Pennaeth Lle mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ôl yr angen.
- Arwain gwaith trawsffiniol gyda sefydliadau partner yn Lloegr lle bo’n briodol, ac ar draws lleoedd eraill yn CNC a’r ardal forol.
- Arwain y lle wrth ddatblygu cyfleoedd prosiect, gan gydlynu’r holl gyllid allanol o fewn y lle i sicrhau bod yr holl gyllid wedi’i alinio ag amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a blaenoriaethau’r Datganiad Ardal i gyflawni’r nodau llesiant.
- Cynrychioli’r Pennaeth Lle mewn trafodaethau rhanddeiliaid allanol ar draws cylch gwaith CNC i ddylanwadu ar agendâu a datblygu syniadau a phrosiectau ar gyfer cyd-gyflawni.
- Arwain y gwaith o gyflawni’r Cynllun Gwasanaeth ar draws Gweithrediadau ar gyfer y gwasanaeth a arweinir gan eich Pennaeth Lle.
- Cyfrannu at ddatblygu Cynllun Busnes a Chynlluniau Penaethiaid Gwasanaeth CNC gan ymgorffori blaenoriaethau yn y Cynllun Lle gyda blaenoriaethau’r Datganiad Ardal a chamau gweithredu llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Rhwydweithio ag arweinwyr tîm Pobl a Lleoedd ledled Cymru a Thystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i ddylanwadu ar gyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar draws ffiniau lleoedd lle bo’n briodol, gosod a rheoli cynlluniau gwaith, monitro’r ddarpariaeth, rhannu dysgu.
- Arwain nifer o dimau prosiect yn ôl yr angen. Sefydlu ac arwain prosiectau penodol yn ôl gofynion y Pennaeth Lle megis prosiectau newid mewnol. Bod yn atebol am reoli perfformiad a chyflawniad timau prosiect nad oes gennych gyfrifoldeb rheoli llinell uniongyrchol drostynt.
- Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau Corfforaethol a Lle, nodi risgiau, adolygu ac adrodd ar gyflawniad ar gyfer Pennaeth Lle.
- Arwain y tîm wrth gynllunio darpariaeth a symleiddio ymgysylltiad rhanddeiliaid ar draws cylch gwaith y lle – (coedwigaeth, cadwraeth, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, llifogydd, dŵr, pysgodfeydd, hamdden, mynediad ac ati) gan ddatblygu rhwydweithiau newydd yn ôl yr angen.
- Arwain ar un o’r swyddogaethau technegol y mae’r tîm yn gyfrifol amdanynt megis:
- Cynllunio busnes.
- Cyllid allanol a phartneriaethau.
- Safleoedd gwarchodedig.
- Adnoddau dŵr neu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Rheoli perygl llifogydd.
- Mae’n debyg y byddwch yn cael cyfrifoldeb dirprwyedig am reoli cyllideb.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad sylweddol o reoli llinell a rheoli rhaglenni.
- Deall ac arwain ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth yn y lle yw’r arbenigedd allweddol ar gyfer y rôl hon. Mae hyn yn gofyn am ddeall cylch gwaith llawn CNC yn y lle, gallu siarad â hygrededd ag uwch-reolwyr, rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar draws pob swyddogaeth i weld y cyfleoedd ar gyfer arloesi, cysylltu agendâu a chyflawni manteision lluosog.
- Profiad sylweddol o arwain a chyflawni gwaith drwy rwydwaith o dimau a phartneriaid cyflawni y tu allan i’ch rheolaeth uniongyrchol.
- Profiad o ddatblygu meddwl arloesol a ffyrdd newydd o weithio.
- Sgiliau dylanwadu rhagorol ar lefelau uwch sefydliadau.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
- Y gallu i asesu ffynonellau lluosog a chymhleth o wybodaeth a’u trosi’n benderfyniadau da.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A2 – Lefel mynediad
Gofynion y Gymraeg
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

