Cyfathrebwr Allgymorth STEM
YMESTYN YN EHANGACH
Gwahoddir ceisiadau am swydd cyfathrebwr STEM allgymorth. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y Project Ymestyn yn Ehangach o fewn y Gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno cyfres o weithdai STEM mewn ysgolion a chymunedau ledled gogledd a chanolbarth Cymru. Bydd y swyddi’n gweithio gyda phartneriaid Ymestyn yn Ehangach i gyflwyno gweithgareddau a gweithdai hwyliog ac addysgiadol i ddysgwyr blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol ddiddordeb mewn hyrwyddo pynciau STEM a llwybrau i addysg uwch. Byddai cefndir mewn pynciau STEM neu addysg yn fanteisiol i’r swydd hon.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys hyrwyddo, trefnu a chynnal cyfres o weithdai STEM blaengar, a fydd yn ehangu dyheadau ac ymwybyddiaeth am addysg uwch, sgiliau a chyrhaeddiad ymysg grwpiau blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn codi proffil y rhaglen Ymestyn yn Ehangach, gan ymgysylltu ag ysgolion, busnesau a phartneriaid Ymestyn yn Ehangach. Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel Safon Uwch neu NVQ lefel 3 mewn maes pwnc perthnasol a bod â phrofiad helaeth o ymgysylltu â charfannau targed Ymestyn yn Ehangach trwy waith estyn allan mewn cyd-destun addysgol a phrofiad o ddatblygu gweithgareddau dysgu blaengar i oedolion yn ddwyieithog.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd y swydd hon wedi’i lleoli ar y campws ym Mangor ac mae hefyd yn cynnwys gweithio ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd ym mis Mai 2016, ac mae’r swydd ar gael tan 31/8/2026. Yn aros am gadarnhad estyniad cyllid tan Awst 2027.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Ebrill 2026
Cynhelir y cyfweliadau ar 28 Ebrill 2026
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

