Rheolwr Lleoliad – Clwb y Bont

Teitl Swydd
Rheolwr Lleoliad – Clwb y Bont
Enw’r Cwmni
Clwb y Bont
Lleoliad
Pontypridd
Cyflog
£26,936 – £28,860 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 13/04/2026

Mae Clwb y Bont newydd ddathlu 40 mlynedd fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol byw gyda cherddoriaeth, celfyddydau, comedi, barddoniaeth a pherfformiadau byw gwych.

Mae gan Glwb y Bont enw da am  rhoi croeso cynnes a chwrw da, a mae croeso i unrhyw un, ble mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu clywed yn y lleoliad. Mae’n  leoliad cyfeillgar a thawel i’r gymuned leol gymdeithasu wrth y bar tra hefyd yn wagle i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. O gerddoriaeth fyw ac arddangosfeydd celf i weithdai a chynulliadau cymunedol, mae rhywbeth yn digwydd bob amser yng Nghlwb y Bont.

Mae Clwb y Bont yn dymuno penodi Rheolwr Lleoliad i gyflawni a datblygu ein gweithrediadau Blaen Tŷ. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu a’r profiad i sicrhau darpariaeth effeithiol a phroffidiol o wasanaeth Bar a Lleoliad sy’n cefnogi ac yn ategu at amcanion y Clwb yn unol â’n amcanion datblygu cwsmeriaid. Dyma gyfle gwych i rywun sy’n dymuno gwneud argraff mewn un o leoliadau cerddoriaeth adnabyddus De Cymru sy’n cefnogi Cymreictod ym mhob ffurf, wedi’i leoli ym Mhontypridd.

Cliciwch ar y ddolenni isod i lawrlwytho:

Swydd ddisgrifiad

Manyleb y Person

Manylion Cytundebol

Ffurflen Gais

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV : swyddiclwbybont@gmail.com