Cynorthwyydd Cyfathrebu (Lleoliad i raddedigion)
Lleoliad: Hyblyg
Gradd / Amrediad cyflog 3: £30,008 – £32,107
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Lleoliad i raddedigion
Dyddiad diwedd y contract: 31/08/2027
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg A1 – Lefel mynediad
Dyddiad cau: 19/04/2026
Y rôl
Dechreuwch eich gyrfa ym maes cyfathrebu gyda ni a helpwch i gefnogi ein pwrpas o sicrhau bod pobl a natur yn ffynnu gyda’i gilydd yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle lleoliad gwaith i unigolion sydd wedi ennill cymhwyster graddedig yn ddiweddar (o fewn y 18 mis diwethaf) mewn disgyblaeth berthnasol, fel cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, cyfathrebu digidol neu farchnata.
Byddwch chi’n ein helpu i adrodd ein stori a gweithio tuag at gyflawni ein nodau llesiant fel bod natur yn gwella erbyn 2030, bod cymunedau yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn well, a bod llygredd yn cael ei leihau.
Byddwch yn cyfrannu drwy gyflwyno cyfathrebiadau clir ac effeithiol i gydweithwyr, rhanddeiliaid, newyddiadurwyr a’r cyhoedd. Mae’r rôl hon yn cynnwys cyfathrebu corfforaethol, perthynas â’r cyfryngau, cynllunio ymgyrchoedd a chreu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn cefnogi gwaith rhagweithiol ac adweithiol, gan gynorthwyo gydag ymholiadau fel y pwynt cyswllt cyntaf.
Byddwch yn gallu gweithio’n hyblyg—boed o gartref, yn un o’n swyddfeydd, neu ar leoliad. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi.
Mae hwn yn gyfle ardderchog os ydych wedi graddio’n ddiweddar ac am ddysgu, datblygu a chyfrannu at waith ystyrlon sy’n fuddiol i bobl a’r amgylchedd naturiol. Cynigir y rôl am gyfnod penodol o 12 mis
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Yvonne Burson at yvonne.burson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal rhwyng 29 Ebrill – 1 Mai 2026 ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ein gwaith o warchod a gwella amgylchedd naturiol Cymru yn effeithio ar bopeth sydd bwysicaf – ein cymunedau, ein bywyd gwyllt, a’n dyfodol.
Rydym yn geidwaid dros 7% o dir Cymru, gan gynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, amddiffynfeydd rhag llifogydd, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Ein dyletswydd ni yw mynd ar drywydd y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Byddwch yn rhan o dîm cyfathrebu cyfeillgar a chefnogol sy’n gweithio’n gydweithredol ar draws y sefydliad.
Byddwch yn atebol i arweinydd y tîm cyfathrebu corfforaethol a chewch eich mentora gan weithwyr proffesiynol cyfathrebu profiadol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, eich hyder a’ch portffolio proffesiynol.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo i greu cynnwys deniadol a hygyrch ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a sianeli, gan gynnwys diweddariadau mewnol, datganiadau i’r cyfryngau, postiadau cyfryngau cymdeithasol, a graffeg neu fideos syml.
- Trosi syniadau ymgyrchoedd yn gynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol sy’n ysgogi ymgysylltiad.
- Darparu cefnogaeth gyfathrebu a gweinyddol ar draws ymgyrchoedd, delio â’r cyfryngau, sianeli digidol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau newyddiadurwyr, gan sicrhau ymatebion amserol a chywir, a chynnal y log ymholiadau cyfryngau. Cefnogi’r gwaith o baratoi llinellau cyfryngau, briffiau a datganiadau i’r wasg.
- Monitro cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol am risgiau, cyfleoedd a thueddiadau, a chynhyrchu cynnwys ymatebol i sicrhau bod presenoldeb cymdeithasol CNC yn berthnasol.
- Cyfrannu at y gwaith o werthuso ymgyrchoedd drwy lunio adroddiadau monitro a chymhwyso mewnwelediadau i wella ymgysylltiad a chyrhaeddiad. Helpu i gynnal adnoddau tîm megis gridiau cynllunio, rhestrau rhanddeiliaid, a data gwerthuso.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Cymhwyster graddedig mewn disgyblaeth berthnasol fel cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, cyfathrebu digidol, neu farchnata.
- Profiad ym maes cyfathrebu, cyfryngau, neu gysylltiadau cyhoeddus trwy gyflogaeth, gwaith gwirfoddol, neu astudiaeth.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda’r gallu i deilwra cynnwys ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd gan roi sylw cryf i fanylion.
- Hyder wrth ddefnyddio offer a phlatfformau digidol, gan gynnwys Microsoft Office, sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, ac offer monitro cyfryngau.
- Sgiliau trefnu cryf gyda’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog a gweithio’n effeithiol o dan bwysau.
- Sgiliau rhyngbersonol da a dull sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, yn gallu cydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid.
- Dealltwriaeth o gyfathrebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys gofynion cyfathrebu dwyieithog a hygyrch.
- Y gallu i adlewyrchu gwerthoedd CNC: bod yn gysylltiedig, yn feiddgar, yn ofalgar, ac yn ddyfeisgar.
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu, bod yn flaengar, a cheisio cyngor pan fo angen.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 – Lefel mynediad
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

