Golygydd Fideo
Y SWYDD
Rydym yn chwilio am olygydd fideo talentog i ymuno â’n tîm. Byddwch yn gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys cynnwys ar gyfer darlledu a llwyfannau digidol aml-lwyfan.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus yn defnyddio meddalwedd golygu safon diwydiant megis Avid Media Composer a/neu Adobe Premiere Pro, ac yn meddu ar ddealltwriaeth gref o adrodd straeon yn weledol.
Byddwch yn ymuno ag un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y DU, gan weithio ochr yn ochr â thîm deinamig o olygyddion ar raglenni byw a chynnwys digidol cyflym ei dro.
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr ar wahanol gamau yn eu gyrfa, o’r rhai sydd â phrofiad cychwynnol cryf i’r rhai â phrofiad helaeth.
LLEOLIAD
Llanelli (Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, SA15 3YE)
SGILIAU ALLWEDDOL
- Profiad o olygu fideo ar gyfer darlledu a/neu lwyfannau digidol
- Hyfedredd mewn meddalwedd golygu safon diwydiant (e.e. Adobe Premiere Pro, Avid Media Composer, Adobe AfterEffects)
- Barn olygyddol gref a’r gallu i lunio straeon yn weledol drwy amseru, sain a graffeg
- Dealltwriaeth o greu cynnwys ar gyfer gwahanol lwyfannau (teledu, digidol, symudol a chyfryngau cymdeithasol)
- Dealltwriaeth o dueddiadau cynulleidfaoedd a pha gynnwys sy’n perfformio’n dda ar wahanol lwyfannau
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thimau technegol
- Y gallu i weithio o dan bwysau ac i gyrraedd dyddiadau cau tynn mewn amgylchedd cyflym ei symudiad
- Ymwybyddiaeth o ganllawiau darlledu, rheolau cydymffurfio a safonau ansawdd
PRIF GYFRIFOLDEBAU A GOFYNION
- Golygu cynnwys fideo ar gyfer darlledu a llwyfannau digidol
- Addasu cynnwys ar gyfer gwahanol fformatau (e.e. ffurf fer ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a fersiynau hyd llawn ar gyfer darlledu)
- Ymdrin ag elfennau technegol megis cymysgu sain, cywiro lliw, a chymhwyso graffeg a theitlau
- Gweithio’n gyflym ac yn effeithlon i gwrdd â dyddiadau cau llym
- Bod yn hyblyg o ran patrymau gwaith, gan gynnwys gweithio oriau afreolaidd yn ôl anghenion cynyrchiadau byw
- Cydweithio ar draws adrannau a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd (e.e. EVS)
MANYLION Y SWYDD
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: Cytundeb cychwynnol o 12 mis gyda chyfnod prawf o 6 mis
Dyddiad Cau: 8 Mai 2026
MANYLION PELLACH
Oriau Gwaith:
Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau:
Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn.
Pensiwn:
Mae hawl gan staff cyflogedig i ymuno â chynllun pensiwn yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol, a disgwylir i chi gyfrannu 5%.
CEISIADAU
Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr cais a CV erbyn 8 Mai 2026 i: swyddi@tinopolis.com
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd gofyn darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.
Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu CV. Byddwn yn cadw copi o’ch CV am hyd at dair blynedd. Os bydd swydd debyg yn codi yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwn yn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ar unrhyw adeg.
Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler: http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

