Rheolwr Diogelwch Bwyd 

Teitl Swydd
Rheolwr Diogelwch Bwyd 
Enw’r Cwmni
Portmeirion Cyf
Lleoliad
Portmeirion, Gwynedd
Cyflog
£30,000 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Cyn gynted â phosib

Mae Pentref Portmeirion yn un o brif atyniadau twristiaeth Gogledd Cymru, mae’n gartref i ddau westy, bwytai, siopau a gerddi ac yn croesawu oddeutu 250,000 o ymwelwyr blynyddol.Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Diogelwch Bwyd i ymuno â’r tîm yma ym Mhortmeirion. Bydd deilydd y swydd hon yn gyfrifol am sicrhau bod ein bwytai, cyflenwyr a chynhyrchion yn gyson yn bodloni’r safonau gofynnol o ran diogelwch bwyd, ansawdd a chydymffurfiaeth reoleiddiol. Byddwch yn ganolog o ran sicrhau cynnal safonau uchel, gan weithio’n agos gyda chyflenwyr a thimau mewnol. Swydd yw hon lle bydd eich arbenigedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddiogelu safon, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus ar draws y safle. Rôl ymarferol yw hon sydd yn greiddiol i’r busnes o ddiogelwch bwyd a rheoli alergenau.

Rydym yn chwilio am rywun gyda’r sgiliau isod

  • Profiad mewn rôl debyg o fewn y diwydiant bwyd neu ddiod
  • Hyfforddiant HACCP (Lefel 3) a Diogelwch Bwyd
  • Lefel 3 neu 4 Diogelwch Bwyd neu gyfwerth (hanfodol)
  • Lefel 3 Iechyd a Diogelwch (dymunol)
  • Dealltwriaeth gadarn o reoli alergenau, HACCP, deddfwriaeth diogelwch bwyd a safonau bwyd.
  • Sgiliau cyfathrebu da gyda manylder a chywirdeb rhagorol.
  • Sgiliau Technoleg Gwybodaeth cryf gan gynnwys Excel, Word a PowerPoint.
  • Bydd angen trwydded yrru ar gyfer y swydd hon.
  • Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhugl (hanfodol)

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Monitro, gwirio a dilysu rheolaethau diogelwch bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth a deddfwriaeth ynghyd a safonau a pholisiau mewnol diogelwch bwyd.
  • Darparu hyfforddiant ar ddiogelwch bwyd, hylendid a safonau cydymffurfio.
  • Datblygu, monitro a chynnal system HACCP effeithiol, a diffinio peryglon diogelwch bwyd a risgiau hylendid, yn ogystal â sut i’w hatal, a sut mae deddfwriaeth bwyd yn berthnasol i bob allfa.
  • Cynnal cofnodion cywir, manylebau cynnyrch a systemau adrodd.
  • Adolygu a chymeradwyo dogfennaeth cyflenwyr a chynnal cofnodion ardystio cywir.
  • Cadw cofnodion cyflenwyr yn drefnus ac yn barod i’w harchwilio bob amser.

Cywirdeb Alergenau a Maethol

  • Sicrhau bod yr holl fanylebau cynnyrch yn gywir ac wedi’u ffeilio/storio’n gywir.
  • Cadw rhestrau cynhwysion ar-lein sy’n wynebu gwesteion, data alergenau a gwybodaeth faethol yn gywir ac yn gyfredol.
  • Cymryd yr awenau ar honiadau gwenwyno bwyd, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn broffesiynol, yn drylwyr, ac yn unol a gofynion cyfreithiol a gofynion y cwmni.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion ‘sgorau ar y Drysau’ EHO.

Beth rydym yn ei gynnig?

  • Cyflog – £30,000 y flwyddyn
  • Amgylchedd gweithle cadarnhaol gyda chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.
  • Tawelwch meddwl gyda Yswiriant Bywyd Cyflogeion.
  • Mwynhewch siopa a bwyta yn ein siopau a’n bwytai gyda gostyngiad o 10%
  • 28 diwrnod o wyliau bob blwyddyn (pro rata i staff rhan amser)

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Ellen Roberts, Rheolwr Adnoddau Dynol, Portmeirion Cyf ar 01766 772369 neu ebostiwch eich CV i swyddi@portmeirion.cymru

Sut i wneud cais

Am fanylion pellach cysylltwch gyda Ellen Roberts, Rheolwr Adnoddau Dynol, Portmeirion Cyf ar 01766 772369 neu ebostiwch eich CV i swyddi@portmeirion.cymru