Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.Crynodeb o’r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser (37 awr yr wythnos), Parhaol
Gyflog: £33,596 – £51,932 (y cyflog llawn amser yw hwn, bydd y cyflog yn pro rata yn dibynnu ar y patrwm gwaith) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i’r Golofn Gyflog Uwch)
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol o lefel 2 i lefel 3.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi gael profiad profedig a chymhwysedd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a meddu ar gymwysterau addysgu perthnasol. Mae’r rôl hefyd yn gofyn fod yr ymgeisydd yn gallu cyfathrebu (yn ysgrifenedig ac ar lafar) drwy gyfrwng y Gymraeg, a gellir darparu hyfforddiant i gefnogi’r gofyniad hwn.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi ddarparu dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n dysgwyr. Hefyd byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles myfyrwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
- Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w harfer
- Sgiliau Llythrennedd Digidol Da
- Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
Mae sgiliau Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod ganddyn nhw sgiliau Cymraeg Lefel 3. Bydd asesiad sgiliau Cymraeg yn rhan o’r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu.Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

