Swyddog Datblygu Cerddwyr Tywys
Helpu i agor tirweddau ac arfordiroedd i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru.
Rydyn ni’n chwilio am Arweinydd Mynydd profiadol i arwain twf Model Hyfforddi Cerddwyr Tywys Gweld Cymru’n Wahanol yr RNIB. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud cerdded yng Nghymru yn ddiogelach, yn fwy hygyrch ac yn fwy croesawgar i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Byddwch yn dylunio ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar gyfer Cerddwyr Tywys, gan greu cymuned fedrus a chynaliadwy o weithwyr proffesiynol cymwys a gwirfoddolwyr ledled Cymru. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau awyr agored, parciau cenedlaethol a brandiau offer a dillad i hyrwyddo hygyrchedd a dylunio cynhwysol yn yr awyr agored.
Mae hon yn rôl ymarferol gyda ffocws allanol. Byddwch yn cyfrannu sgiliau cyfathrebu rhagorol, gwaith partneriaeth cadarn ac angerdd gwirioneddol dros dirwedd Cymru a’i heffaith ar iechyd a lles.
Bydd angen i chi fod â chymhwyster Arweinydd Mynydd cyfredol a hefyd profiad cadarn o arwain grwpiau yn nhirweddau Cymru a’r DU. Bydd teithio ledled Cymru, gan gynnwys y Parciau Cenedlaethol, yn rhan o’r rôl, gydag aros dros nos yn achlysurol.
Os ydych chi’n cael eich cymell gan gynhwysiant, cydweithredu a gwneud gwahaniaeth yn yr awyr agored, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Beth Rydym Yn Ei Gynnig
Mae’r RNIB yn ymfalchïo mewn bod yn lle gwych i weithio ynddo gyda diwylliant cadarnhaol a blaengar. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion gan gynnwys 27 diwrnod o wyliau y flwyddyn (ynghyd â gwyliau banc) sy’n cynyddu gyda phob blwyddyn o wasanaeth, buddion gwell sy’n gyfeillgar i deuluoedd, cynllun pensiwn cyfrannol gyda chyfraniad cyflogwr o hyd at 11% a phlatfform gwobrwyo gyda gostyngiadau i gyflogeion ar draws mwy nag 800 o fanwerthwyr.
Am ragor o wybodaeth am y buddion sydd ar gael, ewch i’n tudalen Buddion Gweithio i’r RNIB.
Sut i Wneud Cais
Os hoffech chi wneud cais am y cyfle yma, gwnewch gais ar-lein, trwy’r ddolen Gwneud Cais gan uwchlwytho eich CV a datganiad ategol a dweud wrthyn ni sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol ym manyleb y person.

