Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeliaid

Teitl Swydd
Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeliaid
Enw’r Cwmni
Awdurdod Cyllid Cymru
Lleoliad
Hybrid / Caerdydd / teithio ledled Cymru i ddigwyddiadau ymgysylltu
Cyflog
£37,111 – £45,378
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 31/05/2026

Lleoliad

Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid, ond bydd angen mynd i’n swyddfa yng Nghaerdydd yn dibynnu ar anghenion busnes. Bydd angen teithio ledled Cymru i fynd i ddigwyddiadau ymgysylltu ac i gofnodi cynnwys o bryd i’w gilydd, gyda chyfnodau prysurach trwy gydol y flwyddyn.

Am y swydd

Crynodeb o’r swydd

Rydym yn gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae ein gwaith yn casglu refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac   ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Ond nid dyna’r oll, rydym hefyd yn rhan o’r gwaith o ddylunio a chefnogi trethi ar gyfer Cymru yn y dyfodol. 

Ymunwch â lle sydd â phwrpas
Byddwch yn ymuno â thîm o dros 100 o bobl dalentog o 14 o wahanol broffesiynau.  Y ffordd orau o ddisgrifio ein diwylliant yw arloesol, cydweithredol a charedig. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn darparu system dreth deg i Gymru. 

Ein pobl 
Byddwch yn gweithio gyda phobl o ystod o wahanol gefndiroedd a phrofiad. O Weithrediadau, Polisi, Digidol a Data, Adnoddau Dynol a Chyfathrebu i Gyllid – mae lle i chi yn ein tîm cyfeillgar.  

Chi fydd ein caffaeliad pennaf

Byddwch yn ymuno â sefydliad cynhwysol ac yn rhan o dîm lle gallwch ffynnu, a lle byddwch yn cael eich gwobrwyo a’ch clywed. 

Rydym yn cael ein cydnabod fel un o’r sefydliadau gorau ar gyfer ymgysylltiad pobl yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Mae cynhwysiant a thegwch yn un o’n meysydd cryfaf, yn ogystal â thâl a buddion – mae ein canlyniadau Arolwg Pobl yn dweud y cyfan!

Rydym hefyd yn cael ein cydnabod am fod yn arloesol ac yn sefydliad digidol, ‘seiliedig yn y cwmwl’ sy’n cefnogi gweithio hybrid a hyblyg gan alluogi cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. 


Mwy o wybodaeth am weithio i ni, ein swyddi a’n Cynllun Corfforaethol 2025 – 2028.

Swydd ddisgrifiad

Dyma swydd newydd gyffrous a chyfnod gwych i ymuno ag ACC fel Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Byddwch yn cefnogi’r Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drwy sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu allanol ACC yn cael ei gynllunio a’i weithredu’n effeithiol. 

Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth weithrediadol, gan roi strwythur, cydlyniad a chysondeb i weithgarwch ymgysylltu ar draws ACC. Byddwch yn helpu i ymgorffori dull mwy canolog a phroffesiynol, gan alluogi’r Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid i ganolbwyntio ar gyfeiriad strategol, perthnasoedd uwch a dylanwad sefydliadol. 

Byddwch yn gyswllt allweddol ar draws y timau, gan sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu yn cyd-fynd â’i gilydd, yn cael ei gydlynu’n dda ac yn codi o’n mewnwelediad, gan hefyd gynnal perthynas gref â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ledled Cymru. 

“Ymgysylltu â rhanddeiliaid yw’r ffordd rydyn ni’n meithrin ymddiriedaeth, yn deall beth sy’n bwysig i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac yn creu partneriaethau sy’n ein helpu i ddarparu system dreth deg ac effeithiol i Gymru. Mae’r swydd hon yn rhan allweddol o wireddu hyn yn gyson, gan ddod â’n gweithgarwch ymgysylltu ynghyd, trefnu digwyddiadau a rhyngweithiadau o ansawdd uchel, a sicrhau bod ein negeseuon yn eglur ac yn broffesiynol yn allanol.” 

Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 

Manyleb bersonol

Yn eich swydd, fel arweinydd gweithredol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid byddwch yn cydlynu gweithgarwch ar draws ACC, gan gymhwyso’r safonau cytunedig a goruchwylio cynlluniau, camau gweithredu ac adroddiadau. Byddwch yn uwchgyfeirio materion strategol neu risg uchel i’r Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. 

  • Arwain y gwaith o gydlynu, cyflwyno a gwerthuso rhaglen ymgysylltu allanol ACC (digwyddiadau, gweminarau, cyfarfodydd a gweithgareddau corfforaethol sy’n wynebu cwsmeriaid). 
  • Cynnal a rheoli calendr ymgysylltu a digwyddiadau canolog er mwyn blaenoriaethu, dilyniannu a chefnogi gwelededd ar draws ACC. 
  • Datblygu ac ymgorffori prosesau, templedi a safonau cyson er mwyn sicrhau bod gweithgareddau ymgysylltu yn cael eu cyflawni yn broffesiynol a’u bod o ansawdd uchel. 
  • Cydlynu data rhanddeiliaid o fewn y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM)/SRM, gan sicrhau cywirdeb, cydymffurfiaeth a defnydd cyson ar draws y sefydliad. 
  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu yn bodloni gofynion GDPR a safonau’r Gymraeg. 
  • Darparu arweiniad ymarferol a chefnogi gydweithwyr i gynllunio a chyflawni gweithgareddau ymgysylltu yn unol â’r dulliau a’r arferion gorau y cytunwyd arnynt. 
  • Cefnogi gweithgarwch cyfathrebu sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu, gan gynnwys cyfrannu at gynlluniau a chyflawni amcanion a’r dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt. 
  • Monitro tueddiadau allanol, datblygiadau polisi a gweithgarwch sector i nodi cyfleoedd a risgiau perthnasol. 
  • Darparu gwybodaeth strwythuredig, diweddariadau sganio’r gorwel ac argymhellion i lywio cynllunio a gweithgarwch ymgysylltu. 
  • Cyfrannu at gynllunio ac adrodd ar weithgarwch ymgysylltu, gan sicrhau ei fod yn cael ei arwain gan dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau. 
  • Cynrychioli ACC mewn lleoliadau allanol, gan adeiladu a chynnal perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn

Sesiwn Wybodaeth i Ymgeiswyr

Os oes gennych ddiddordeb rôl hon, ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiynau Gwybodaeth i Ymgeiswyr rhithwir. Byddwch yn cwrdd â’r Rheolwr Llinell, yn cael trosolwg o’r rôl yn ogystal â theimlad o sut beth yw gweithio yn ACC.  Byddwn hefyd yn trafod ein buddion ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich cais gyda ni. Cofrestrwch ar gyfer un o’r sesiynau isod:

Cofrestrwch yma 12.30pm ar 20 Mai: Business Wales Events Finder – Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr – Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeliaid

Cofrestrwch yma 4.00pm ar 20 Mai: Business Wales Events Finder – Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr – Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeliaid

Ieithoedd

Mae’r rhestr ganlynol o ofynion iaith yn asesiad gwrthrychol o’r sgiliau iaith sydd eu hangen er mwyn ymgymryd â dyletswyddau’r swydd hon:

Sgiliau Cymraeg – Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer y rôl hon wedi’u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. Am ragor o wybodaeth am y lefelau Cymraeg, ewch i’n gwefan.

Darllen – Lefel 5
Disgrifiad – Gallu deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn llawn

Siriad – Lefel 5
Disgrifiad – Rhugl

Deall – Lefel 5
Disgrifiad – Dealltwriaeth lawn o sgyrsiau ymhob sefyllfa waith

Ysgrifennu – Lefel 4
Disgrifiad – Gallu paratoi’r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Buddion

Ochr yn ochr â’ch cyflog o £37,111, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyfrannu £10,751 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.

  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau banc, a 2 Ddiwrnod braint
  • Gweithio hyblyg a hybrid
  • Cynlluniau pensiwn cyflogwr hael gyda chyfraniad o hyd at 28.97%
  • Cynllun ceir Tusker
  • Cycle2Work Vivup a chyflog ymlaen llaw ar gyfer prynu Tocynnau Teithio tymor
  • Buddion Ffordd o Fyw sy’n cynnig gostyngiadau ar siopa, bwytai ac adloniant
  • Awr lesiant bob wythnos
  • Grwpiau chwaraeon â chymhorthdal
  • Polisïau gwyliau addas i deuluoedd hael
  • Cyrsiau Cymraeg am ddim ac amser o’r gwaith i ddysgu
  • Ystod o rwydweithiau amrywiaeth staff
  • Gwasanaeth cwnsela a chymorth am ddim trwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion a phlatfform iechyd Your Care Vivup
  • Diwylliant ffyniannus sy’n cael ei ddisgrifio fel un arloesol, cydweithredol a charedig.
Cyfeirnod Swydd
461597

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.