Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid

Teitl Swydd
Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid
Enw’r Cwmni
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Lleoliad
Llanion, Sir Benfro
Cyflog
£25,185 – £26,403 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 31/05/2026

Contract tymor penodol o 12 mis llawn amser 37 awr yr wythnos

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ddarparu gwasanaeth rheng flaen o ansawdd uchel. Mae hon yn swydd amrywiol lle byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, gan roi gwybodaeth gywir, a sicrhau bod y profiad i gwsmeriaid bob amser yn gadarnhaol.

Ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd, gan ymateb i ystod eang o ymholiadau drwy’r e-bost, dros y ffôn, a wyneb yn wyneb, gan sicrhau bod pob ymholiad yn cael ei ddatrys yn effeithlon ac i gasgliad boddhaol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os oes gennych y canlynol:

– Profiad o ddelio â’r cyhoedd, wyneb yn wyneb a dros y ffôn
– Gwybodaeth a dealltwriaeth o gymwysiadau Microsoft Office
– Y gallu i gyfathrebu yn glir ac yn effeithiol, gan gadw cyfrinachedd a disgresiwn
– Y gallu i fod yn flaengar a gweithio’n annibynnol
– Agwedd gwrtais, ystyriol a hyderus
– Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
– Y gallu i gynnal sgwrs yn y Gymraeg (Lefel B2) a’r Saesneg

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i’w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £25,185 – £26,403 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.

Cyfeirnod Swydd
CSA526

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Dyddiad Cau: 31/05/2026