Cynhyrchydd – Heno / Prynhawn Da
Tinopolis – Llanelli
Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol a brwdfrydig i ymuno â thîm cynhyrchu Heno a Prynhawn Da yn Llanelli.
Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys gwreiddiol a blaengar i ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r rôl yn gofyn am feddwl creadigol a threfnus ac yn cyplysu gwaith ar y rhaglenni byw yn ogystal ag eitemau wedi eu paratoi o flaen llaw ar gyfer y rhaglenni byw a’r llwyfannau digidol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol gyda gwybodaeth ac adnabyddiaeth dda o Gymru a’i phobl ynghyd â’r gallu i greu cynnwys apelgar.
Yn ddelfrydol ry’ ni’n edrych am gynhyrchydd profiadol ond byddwn hefyd yn ystyried ymgeisydd sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau cynhyrchydd. Cynigir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus os yn llai profiadol. Mae agwedd bositif a brwdfrydig yn hanfodol ar gyfer y swydd yma yn ogystal â’r gallu i weithio’n dda gydag eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.
Manylion pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio. Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

