Swyddog Cefnogi Iaith Gymraeg Gofal Plant

Teitl Swydd
Swyddog Cefnogi Iaith Gymraeg Gofal Plant
Enw’r Cwmni
Menter Iaith Sir Caerffili
Lleoliad
Ystrad Mynach (gyda’r gofyn i deithio ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili)
Cyflog
£27,254 – £29,540 (pro rata os yn gweithio llai na 37 awr yr wythnos)
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 05/06/2026

Oriau: 37 awr yr wythnos ond byddwn yn ystyried ceisiadau i weithio 30-37 awr.
Cytundeb: Hyd at 31 Mawrth 2028 (2 flynedd pellach yn ddibynnol ar estyniad cyllid gan Gyngor B.S.Caerffili)

Ymunwch â ni i helpu’r genhedlaeth nesaf i fyw a gweithio drwy’r Gymraeg! Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn chwilio am Swyddog Cefnogi Iaith Gymraeg Gofal Plant i arwain ar ddatblygu defnydd y Gymraeg o fewn lleoliadau amrywiol gofal plant ar draws sir Caerffili. Bydd y rôl yn allweddol wrth gefnogi darparwyr i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg trwy gymorth ymarferol, hyfforddiant, datblygu adnoddau a mentora staff. Cyllidir y swydd trwy gytundeb gan Gyngor B.S.Caerffili.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Gweithredu rhaglen gefnogi i o leiaf 15 o leoliadau gofal plant amrywiol er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg.
  • Datblygu a darparu hyfforddiant perthnasol i’r gweithlu blynyddoedd cynnar
  • Asesu sgiliau iaith y gweithlu ac adnabod anghenion datblygu
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu amgylcheddau gofal plant ieithyddol gyfoethog
  • Cydweithio â phartneriaid i hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn y sector
  • Monitro a gwerthuso effaith y gefnogaeth
  • Hyrwyddo llwyddiannau a chynnydd y cynllun

Gofynir am:

  • Sgiliau Cymraeg a Saesneg o safon uchel (llafar ac ysgrifenedig)
  • Profiad o weithio yn y sector gofal plant neu addysg blynyddoedd cynnar gyda chymhwyster Lefel 3 mewn Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar neu gymhwyster perthnasol arall.
  • Sgiliau trefnu, cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth rhagorol
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Trwydded yrru lawn a pharodrwydd i deithio

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn angenrheidiol

Sut i ymgeisio:
Os oes gennych y weledigaeth, y brwdfrydedd a’r sgiliau i wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Caerffili, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.  Os ydych chi am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Lowri Jones ar 01443 820913 neu e-bostiwch lowrijones@mentercaerffili.cymru.

Dylech ddychwelyd y Ffurflen Gais ynghyd â’ch CV mwyaf cyfredol erbyn 5pm ar Fehefin 5ed i lowrijones@mentercaerffili.cymru

Cyfweliadau: Mehefin 15fed yn swyddfa Menter Caerffili, Ystrd Mynach, CF82 7EH

Sut i wneud cais

Dylech ddychwelyd y Ffurflen Gais ynghyd â’ch CV mwyaf cyfredol erbyn 5pm ar Fehefin 5ed i lowrijones@mentercaerffili.cymru