Swyddog Cyfieithu

Teitl Swydd
Swyddog Cyfieithu
Enw’r Cwmni
Ombwdsmon Cymru
Lleoliad
Pen-y-bont ar Ogwr — 1–2 ddiwrnod yn y swyddfa, fel arall yn gwbl hyblyg
Cyflog
£33,144 – £34,434 (pro rata)
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 08/06/2026

Rydym yn dymno recriwtio Swyddog Cyfieithu yn darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy ar gyfer yr Ombwdsmon a swyddfa’r Ombwdsmon, gan ganolbwyntio ar waith o ddydd i ddydd, gwaith sy’n sensitif o ran amser ac sy’n flaenoriaeth, sicrhau ansawdd, a defnyddio cof cyfieithu ac offer iaith yn effeithiol i gefnogi cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

Cyfrifoldebau:

  • Drafftio a darparu cyfieithiadau ysgrifenedig o ansawdd uchel rhwng y Gymraeg a’r Saesneg (ac i’r gwrthwyneb) ar gyfer gohebiaeth sy’n sensitif o ran amser, cyfathrebu a chynnwys sy’n wynebu’r cyhoedd, gan gynnwys deunydd a ddaw gan achwynwyr a chyrff cyhoeddus, yn unol â gofynion statudol ac amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Prawfddarllen cynnwys Cymraeg a Saesneg i sicrhau cywirdeb ieithyddol, eglurder, tôn, Cymraeg / Saesneg Clir a chysondeb ag arddull tŷ’r sefydliad.
  • Sicrhau ansawdd cyfieithiadau a gomisiynir yn allanol er mwyn sicrhau’r derminoleg a’r arddull gywir a cydymffurfiaeth â safonau’r sefydliad.
  • Cynnal, diweddaru a defnyddio terminoleg Gymraeg/Saesneg y cytunwyd arni, gan gynnwys rheoli geirfaoedd ac adnoddau cyfeirio.
  • Rheoli a gwneud defnydd effeithiol o system cof cyfieithu’r sefydliad, gan gynnwys ôl-olygu ac adolygu cyfieithiadau a gynhyrchir gan beiriannau i safonau proffesiynol.
  • Cefnogi llif gwaith cyfieithu effeithlon drwy reoli ceisiadau cyfieithu a gyflwynir drwy’r Hwb a chynghori ar derfynau amser realistig ar gyfer gwaith nad yw’n frys.
  • Gweithio gyda’r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod y Wefan Gymraeg a chynnwys y cyfryngau cymdeithasol yn gywir, yn amserol ac yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
  • Rhoi arweiniad i’r tîm ehangach ar ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth gynhyrchu dogfennau yn unol â Safonau’r Gymraeg.
  • Arwain trefniadau gweinyddol ar gyfer comisiynu a rheoli gwasanaethau cyfieithu allanol.
  • Darparu cymorth cyfieithu mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein.
  • Cefnogi cynlluniau i feithrin hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys cyfrannu at hyfforddiant staff a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth.
  • Monitro datblygiadau mewn arferion cyfieithu, terminoleg a chanllawiau a gyhoeddir gan gyrff perthnasol yng Nghymru a chynghori ar y goblygiadau i’r sefydliad.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol a digwyddiadau Cymraeg fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill, sy’n gymesur â’r raddfa, y sgiliau a’r profiad y disgwylir i ddeiliad y swydd feddu arnynt, y gall rheolwyr eu dyrannu o bryd i’w gilydd.

Amcanion ar gyfer holl staff OGCC:

  • Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau OGCC fel y’u nodwyd yn y dogfennau polisi, y pecynnau cynefino, yr Hwb ac ati.
  • Cyfrannu at ymrwymiad OGCC i arferion da o ran delio â gwybodaeth drwy gydymffurfio â Chyfraith Diogelu Data a pholisïau a gweithdrefnau OGCC, yn enwedig o ran unrhyw ddata personol neu ddeunydd cyfrinachol.
  • Cymryd gofal rhesymol o’ch llesiant a’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac o lesiant ac iechyd a diogelwch pobl eraill y gallai’r camau hynny effeithio arnynt.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill, sy’n gymesur â’r sgiliau a’r profiad a ddisgwylir ar gyfer y swydd hon ac y gall y rheolwr llinell perthnasol eu dyrannu o bryd i’w gilydd.
  • Gweithredu ar draws holl awdurdodaeth bresennol yr Ombwdsmon neu ei awdurdodaeth yn y dyfodol ac ym mha bynnag dîm gweithredu sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon er mwyn cyflawni amcanion y gwasanaeth.

Hanfodol

  • Cymhwyster cydnabyddedig mewn cyfieithu neu’r Gymraeg (lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol), neu brofiad proffesiynol amlwg cyfatebol.
  • Profiad amlwg o gyfieithu a/neu ôl-olygu Cymraeg/Saesneg i safon uchel.
  • Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar a sgiliau ysgrifenedig rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Sgiliau prawf ddarllen a sicrhau ansawdd rhagorol.
  • Gallu cwblhau cyfieithiadau’n gywir ac yn effeithiol, o fewn amserlenni tynn.
  • Disgresiwn llwyr a dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd.
  • Sgiliau TG da, gan gynnwys profiad o offer cyfieithu.
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, a gallu gweithio’n annibynnol ac ar y cyd.
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth sy’n deg ac yn gyfartal i bawb, waeth beth yw eu rhywedd, eu statws priodasol, eu hethnigrwydd, eu henwad crefyddol, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hanabledd neu eu hoed neu unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.

Dymunol

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth eang o awdurdodaeth yr Ombwdsmon. 
  • Gallu cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
  • Profiad o weithio / gweithredu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Trwydded yrru lawn lân a cherbyd at eich defnydd, wedi’i yswirio ar gyfer defnydd busnes.
  • Profiad blaenorol yn y sector cyhoeddus.
  • Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (cymdeithas cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd Cymru) neu barodrwydd i weithio at aelodaeth.

Tâl a Buddion

Cyflog:  £33,144 – £34,434 (pro rata) (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)

Pensiwn:  Cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Gwyliau: 32 diwrnod + gwyliau banc (pro rata)

Oriau: 21 yr wythnos, amser hyblyg llawn (1.5 diwrnod hyblyg ar gael y mis)

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr — 1–2 ddiwrnod yn y swyddfa, fel arall yn gwbl hyblyg

Cyflogwr: Ombwdsmon Cymru

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.