Cydlynydd Lle Cymunedau Cynaliadwy
Oriau: Llawn amser – 37 awr yr wythnos. Ystyrir oriau gwaith hyblyg neu 0.8 FTE (4 diwrnod).
Mae Severn Wye yn chwilio am unigolyn dawnus i alluogi pobl a chymunedau cefn gwlad i weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGLG), bydd Cymunedau YnNi yn galluogi 10 cymuned wledig tan anfantais yng Nghymru a Lloegr i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan roi cymorth ac ysbrydoliaeth ar gyfer gweithredu cymunedol sy’n canolbwyntio ar leihau defnydd o ynni a chynhyrchu ynni glân, gan arwain at allyrru llai o garbon, atgyfnerthu’r gymuned, a chynaliadwyedd tymor hir.
Bydd Cymunedau YnNi yn helpu cymunedau sydd ddim wedi ymwneud llawer â phroblemau hinsawdd yn y gorffennol, gan eu dwyn ynghyd i drafod gweithredu ynghylch ynni a’i effaith ar newid yn yr hinsawdd. Bydd cymunedau’n clustnodi heriau lleol, yn canfod beth y mae pobl yn hidio amdano, ac yn ymchwilio i atebion. Bydd y prosiect yn ysbrydoli’r hyn sy’n bosibl ac yn rhoi i gymunedau’r modd i’w gyflawni. Byddwn yn helpu cymunedau yn y tymor hir, gan gydnabod bod adeiladu’r syniadau, y galluoedd a’r hyder i gyflawni prosiectau yn gofyn amser. Bydd y prosiect yn helpu cymunedau i fod â mwy o reolaeth dros eu hynni yn y dyfodol, gan greu cyfleoedd ar gyfer medrau gwyrddion, cyflogaeth leol ac adfywio cymunedol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn drefnus, yn mwynhau cynhyrchu gwaith gwych, ac yn caru gweithio fel aelod o dîm. P’un a ydych chi’n adnabyddus am eich sgiliau pobl, datrys problemau, neu sylw i fanylion – efallai mai chi yw’r person y mae Severn Wye yn chwilio amdano. Yn gyfnewid am eich medrau a’ch gwaith caled rydym yn cynnig cyflog cystadleuol, hyfforddiant addas a chynllun pensiwn cwmni. Os ydych chi am gryfhau eich gyrfa, ehangu eich profiad a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy wrth wneud hynny, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

