Cyfarwyddwr Profiad

Teitl Swydd
Cyfarwyddwr Profiad
Enw’r Cwmni
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lleoliad
Aberystwyth
Cyflog
£92,619 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 29/06/2026

Swydd barhaol. 37 awr yr wythnos.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Profiad i’n helpu i gyrraedd pobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru a’r byd drwy hyrwyddo a gwella profiadau o’r casgliadau a’n gwasanaethau.  Byddwch yn arwain y Gyfarwyddiaeth Profiad, Ymgysylltu a Phartneriaethau ac yn gweithredu fel un o ddirprwyon y Prif Weithredwr mewn meysydd amrywiol.

Rydym yn awyddus i benodi unigolyn gyda phrofiad proffesiynol sylweddol ar lefel arweinyddiaeth i arwain ar ein strategaeth ymgysylltu, profiad ymwelwyr a defnyddwyr, cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus.  Byddwch yn gyfarwydd iawn â Chymru a’i chymunedau a’i thirwedd ddiwylliannol ac yn credu’n gryf yng ngrym diwylliant, dysg. a gwybodaeth i wella bywydau unigolion a chymunedau.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn sefydliad cwbl ddwyieithog ac yr ydym yn gwasanaethu cenedl ddwyieithog, ac felly mae sgiliau lefel uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, gwirfoddolwyr, defnyddwyr a rhanddeiliaid yn deg ac ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran, anabledd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, dosbarth cymdeithasol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, newid rhywedd, statws priodasol, neu am unrhyw reswm annheg arall.

Byddwn yn croesawu’n arbennig dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd yn perthyn i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais, dylech lenwi  Ffurflen Gais ynghyd â chyflwyno llythyr o gyflwyniad, sy’n amlinellu eich diddordeb yn y swydd gan fanylu ar sut yr ydych chi’n credu eich bod yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol.  Mae croeso i chi hefyd gyflwyno deunydd  ategol arall fel gwybodaeth ychwanegol.

Dylech gynnwys enwau a chyfeiriadau dau/dwy ganolwr.  Ni chysylltir â hwy hyd nes  y camau olaf, a byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hynny’n gyntaf.

Hefyd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal. Bydd hyn yn helpu’r Llyfrgell i fonitro penderfyniadau dethol er mwyn sicrhau tegwch y broses o ran cyfleoedd cyfartal. Ni ddefnyddir unrhyw wybodaeth a welir yn eich Ffurflenni Cyfle Cyfartal fel rhan o’r broses ddethol ac ymdrinnir â’r wybodaeth yn  gwbl gyfrinachol.

Gellir anfon ceisiadau trwy e-bost at: Annwen Isaac, Rheolwr Adnoddau Dynol annwen.isaac@llgc.org.uk 

neu drwy’r post at: Annwen Isaac, Rheolwr Adnoddau Dynol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU 

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 11.00 o’r gloch, bore Llun, 29 Mehefin 2026

Dyddiad cyfweliadau: Cynhelir y cyfweliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 16 Gorffennaf 2026. Os oes dyddiadau nad sy’n gyfleus ichi, nodwch hynny yn eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.