Darlithydd mewn Gwaith Brics (Cyfarwyddiaeth Dysgu Sylfaen)

Teitl Swydd
Darlithydd mewn Gwaith Brics (Cyfarwyddiaeth Dysgu Sylfaen)
Enw’r Cwmni
Coleg Cambria
Lleoliad
Wrecsam
Cyflog
£33,596 hyd £51,932
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 25/06/2026

Lleoliad: Ffordd y Bers, Wrecsam
Dyddiad Cau y Cais: 25 Mehefin 2026
Cyflog: £33,596 hyd £51,932

Proffil Swydd

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.Crynodeb o’r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Gwaith Brics (Cyfarwyddiaeth Dysgu Sylfaen)

Lleoliad: Ffordd y Bers

Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol

Graddfa Gyflog:  M1 £33,596 – UP3 £51,932 (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i’r Colofnau Cyflog Uwch.)

Mae gennym ni swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Darlithydd Gwaith Brics yng Nghyfarwyddiaeth Dysgu Sylfaen Coleg Cambria, wedi’i leoli ar ein safle Ffordd y Bers yn Wrecsam. 

Rydyn ni’n chwilio am Ddarlithydd ymroddedig a brwdfrydig mewn Sgiliau Sylfaen i ymuno â’n tîm yng Ngholeg Cambria. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno’r cymhwyster gwaith brics galwedigaethol i ddysgwyr Lefel 1.

Mae’r rôl hon yn cynnwys sesiynau gwaith brics ymarferol a damcaniaethol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer y grefft. Yn ogystal â chyflwyno’r cwricwlwm galwedigaethol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am arwain sesiynau cyfoethogi a chyflogadwyedd, yn ogystal â darparu tiwtorialau personol i gefnogi cynnydd a datblygiad dysgwyr.

Bydd hefyd yn gyfrifoldeb arnoch chi i ddarparu cymorth parhaus i gynyddu ymgysylltiad a dilyniant i ddysgwyr sydd â rhwystrau i ddysgu.  

Gofynion Hanfodol

  • Profiad helaeth amlwg ym maes Gwaith Brics, mewn amgylchedd domestig a masnachol yn ddelfrydol
  • Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Gallu ymdrin yn gyflym ac yn effeithiol ag ymddygiad amhriodol yn yr ystafell ddosbarth
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5
  • Addysg at gymhwyster Lefel 3 o leiaf
  • Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu 
  • Gallu dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol a sut y byddwch chi’n sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn 
  • Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu’r anghenion hyn mewn amgylchedd dysg
  • Gallu dadansoddi a defnyddio gwybodaeth allweddol i lywio addysgu a dysgu
  • Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelu ac ymwybyddiaeth o hynny

Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon, fodd bynnag, anogir dysgwyr Cymraeg* sydd â’r gallu i gyrraedd lefel 3/4 o fewn cyfnod o 18 mis i 2 flynedd i wneud cais hefyd. Bydd angen i ddysgwyr Cymraeg fod ar Lefel 2 a dangos ymrwymiad i gyflawni rhuglder. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi’r datblygiad hwn trwy gynllun datblygu proffesiynol wedi’i deilwra. Bydd asesiad sgiliau Iaith Gymraeg yn rhan o’r broses ddethol i nodi cymhwysedd, hyder ac addasrwydd ar gyfer cynllun datblygu. 

Hanfodol ydy sgiliau’r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a’n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Rydyn ni’n adeiladu coleg sy’n adlewyrchu’r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn.

Mae’r rôl hon wedi’i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi’i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae’n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae’n drosedd gwneud cais os ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw’n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi’n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.  Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg 

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig  

Cyfeirnod Swydd
CC/3123

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.