Hyfforddwr Arddangoswr – Adeiladu

Teitl Swydd
Hyfforddwr Arddangoswr – Adeiladu
Enw’r Cwmni
Coleg Cambria
Lleoliad
Wrecsam
Cyflog
£26,980 – £31,245
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 12/06/2026

Dyddiad Cau y Cais: 12 Mehefin 2026
Cyflog: £26,980 hyd £31,245

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.Crynodeb o’r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Arddangoswr Hyfforddwr Aml-Sgiliau – Adeiladu

Lleoliad: Ffordd y Bers, Wrecsam

Math o Gontract: Llawn Amser: Cyfnod Penodol – 1af Awst 2026 – 31ain Gorffennaf 2027

Cyflog: £26,980 – £31,245

Mae ein hadran dysgu Sylfaen yn Ffordd y Bers, Wrecsam, yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr profiadol ac aml-fedrus. O fewn ein gweithle modern sydd wedi’i gyfarparu ag offer safonol y diwydiant, byddwch chi’n gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol cynhwysfawr. Mae eich dyletswyddau’n cynnwys cynllunio gweithgareddau ymarferol mewn cydweithrediad â’n tîm cwrs, sicrhau datblygiad sgiliau ein myfyrwyr, a rheoli tasgau gweinyddol allweddol fel cadw cofnodion ac asesiadau myfyrwyr. Mae’r swydd yn cynnwys cyflwyno ac arddangos sgiliau ymarferol sylfaenol ar draws amrywiol grefftau adeiladu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Gwaith Saer a Gwaith Coed, Plastro, Gwaith Brics, a sgiliau trydanol a phlymwaith sylfaenol.

Mae cadw at ein canllawiau ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd yn hanfodol.  

Os oes gennych chi arbenigedd sylweddol mewn Amgylchedd Adeiladu Aml-Sgiliau ac yn awyddus i fentora’r genhedlaeth nesaf, rydyn ni’n croesawu eich cais. Ymunwch â’n tîm ymroddedig yn Ffordd y Bers, a chyfrannwch at ddatblygiad proffesiynol ein diwydiant.

Gofynion Hanfodol

  • Mae’n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth. 
  • Profiad masnachol a domestig mewn Adeiladu.
  • Gallu dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol a sut y byddwch chi’n sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn. 
  • Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu.
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio’r Rhyngrwyd a’r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod i wneud hynny a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd.
  • Gallu ymdrin yn gyflym ac yn effeithiol ag ymddygiad amhriodol yn yr ystafell ddosbarth.
  • Gallu cyflwyno sesiynau ymarferol effeithiol o ansawdd uchel yn hyderus sy’n gwella dysgu i’n myfyrwyr.

Hanfodol ydy sgiliau’r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a’n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Rydyn ni’n adeiladu coleg sy’n adlewyrchu’r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn.Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg 

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig  

Cyfeirnod Swydd
CC/3113

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.