Cydlynydd

Teitl Swydd
Cydlynydd
Enw’r Cwmni
Tinopolis
Lleoliad
Llanelli
Cyflog
yn ddibynnol ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 21/06/2026

Tinopolis – Llanelli
Ry’ ni’n chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno a thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd Ilwyddiannus yn ymwneud a phob agwedd o waith y timoedd rheoli cynhyrchu ar draws ystod o gynnwys.

Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys tasgiau rheoli’r tîm a’r adnoddau drwy’r broses gynhyrchu er mwyn cael y gwerth gorau i’r rhaglenni gan gynnwys amserlenni, trefnu criwiau saethu/ôl-gynhyrchu, logistics a gwaith papur cyn ac ôl-gynhyrchu. Yn ogystal bydd hefyd cyfrifoldeb am amrywiaeth o agweddau rhedeg y swyddfa, trefniadau teithio a gwaith achlysurol ar leoliad o dan arweiniad y tim rheoli cynhyrchu. Oherwydd natur y swydd, bydd y swydd wedi’i leoli llawn amser yn y stiwdio yn Llanelli.

Sgiliau perthnasol: Y gallu i gyfathrebu, bod yn rhan o dîm, a chreu a chynnal perthnasau gwaith effeithiol yn fewnol ac ar draws y diwydiant. Person trefnus, egnïol, hyblyg sy’n gallu blaenoriaethu ac yn cynnig ateb i broblemau.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ niʼn gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal. Ry’ ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 21 Mehefin 2026

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno a Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio. Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Sut i wneud cais

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE