Trefnydd Digwyddiadau (Rhan Amser)
📍 Lleoliad: Clwb y Bont, Pontypridd
🕑 Oriau: 2 ddiwrnod yr wythnos (hyblyg)
📅 Cytundeb: Rhan amser
Mae Clwb y Bont yn chwilio am Drefnydd Digwyddiadau creadigol a brwdfrydig i ymuno â’n tîm. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o lywio bywyd diwylliannol ein canolfan gymunedol ym Mhontypridd drwy drefnu ac arwain amrywiaeth o ddigwyddiadau – o gigs byw i weithdai cymunedol a nosweithiau thematig.
Prif Gyfrifoldebau:
- Cynllunio, cydlynu a chyflwyno digwyddiadau yn Clwb y Bont
- Cysylltu â pherfformwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol
- Hyrwyddo digwyddiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau lleol
- Rheoli trefniadau a chyllidebau digwyddiadau
- Sicrhau bod digwyddiadau’n gynhwysol ac yn groesawgar i bawb
Gofynion:
- Profiad o drefnu neu gydlynu digwyddiadau
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol
- Brwdfrydedd dros y celfyddydau, diwylliant a chynnwys cymunedol
- Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
💼 I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr i osianrowlands@menteriaith.cymru erbyn 22 Mehefin 2026

