Goruchwyliwr Bar a Swyddog Lleoliad (gan gynnwys DPS)
Prif Gyfrifoldebau
Bod yn gyfrifol am:
- Bod yn DPS penodedig ar gyfer y lleoliad a chyflawni’r holl ddyletswyddau cysylltiedig.
- Cyflawni dyletswyddau’r Goruchwyliwr Bar (Disgrifiad Swydd ar wahân ynghlwm ar gyfer yr elfen hon o’r rôl).
- Rheoli system e-bost y Clwb gan ymateb yn brydlon i ymholiadau ar gyfer llogi preifat ac ati, o fewn y lefelau gwasanaeth a bennir.
- Cefnogi a chynnal gwefan y Clwb, cronfa ddata aelodaeth ac unrhyw system neu broses berthnasol arall.
- Trefnu a chydlynu digwyddiadau cymunedol achlysurol os bydd angen.
CYFNOD PENODOL: Yn dod i ben ar 31 Mai 2027
Cyflog: £14.00 yr awr
Oriau gwaith : 25 awr yr wythnos, gyda’r angen i fod yn hyblyg o ran diwrnodau ac amseroedd er mwyn cyd-fynd ag unrhyw archebion llogi preifat a threfniadau arferol dyletswyddau’r Goruchwyliwr Bar.
Bydd gwaith penwythnos ac y tu allan i oriau swyddfa yn ofynnol – bydd y rhain yn cael eu cytuno ymlaen llaw lle bynnag y bo’n bosibl.
Disgwylir bod ar gael i ateb galwadau ffôn yn ystod ac weithiau y tu allan i oriau gwaith arferol.
Yn Atebol I / Rheolaeth Linell
Perthynas waith agos o ddydd i ddydd gyda’r Trysorydd, gyda chydweithio agos gyda staff y bar ar gyfer tasgau’r Goruchwyliwr Bar – yn atebol yn y pen draw i’r Pwyllgor mewn cyfarfodydd misol os bydd angen.
Prif Ddyletswyddau
- Fel DPS y Clwb, sicrhau bod y Clwb yn cydymffurfio’n llawn â’r holl ofynion trwyddedu a bod staff wedi’u hyfforddi’n llawn i sicrhau hyn.
- Bod yn Swyddog Cyfrifol am unrhyw ofynion Diogelwch Tân (mae profion rheolaidd o offer wedi’u cynnwys yn nogfen gyfrifoldebau’r Goruchwyliwr Bar).
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer llogi preifat a digwyddiadau cymunedol trwy fonitro’r system e-bost gyffredinol ddwywaith y dydd.
Y disgwyliad gwasanaeth yw na ddylai unrhyw e-bost fod heb sylw am fwy na hanner diwrnod – mae ymatebion dros dro yn ddigonol cyn belled â’u bod o fewn 5 awr. - Rheoli pob archeb llogi preifat. Cytuno ar gostau gyda’r Trysorydd, sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei chasglu i gyhoeddi anfonebau’n gywir a monitro derbyn taliadau.
- Mynychu cyfarfodydd Pubwatch misol er mwyn sicrhau bod y Clwb yn ymwybodol o’r materion a drafodir.
- Cynnal cronfa ddata aelodaeth o dan gyfarwyddyd aelod y pwyllgor sy’n gyfrifol am Aelodaeth (Stephen Fairclough ar hyn o bryd) ac mewn cydweithrediad â’r Trysorydd.
- Paratoi cylchlythyrau aelodaeth cyfnodol (amlder i’w gytuno) ar gyfer cymeradwyaeth yr aelod pwyllgor perthnasol. Defnyddir Mailchimp ar gyfer y cyfathrebiadau hyn.
- Paratoi cyfathrebiadau cyfnodol i danysgrifwyr Clwb y Bont yn hyrwyddo digwyddiadau a llwyddiannau diweddar.
Cynnwys i’w gytuno gyda’r Pwyllgor drwy’r Trysorydd. - Sicrhau bod calendr mewnol a chyhoeddus y wefan yn cael ei ddiweddaru’n barhaus gyda manylion llawn (manylion cyswllt, amseroedd, math o ddigwyddiad, bwffe ayb).
- Cynorthwyo i ddatblygu gwefan y Clwb i wella ei hapêl, ei swyddogaethau a hyrwyddo ei gynigion.
- Adnabod, trefnu a chydlynu digwyddiadau cymunedol achlysurol sy’n ategu gwaith Trefnydd Digwyddiadau’r Clwb.
- Monitro adnoddau digwyddiadau ar y safle gan gynnwys offer a dodrefn, a chynnal rhestrau offer; trafod anghenion gyda’r Trysorydd.
- Paratoi ffurflenni cyfnodol PPL/PRS yn gywir ac o fewn y terfynau amser.
- Cyfrannu at ddylunio deunydd hyrwyddo digwyddiadau megis taflenni, posteri a thocynnau.
- Gweithredu a chynnal systemau cofnodi data yn unol â pholisïau a gweithdrefnau (e.e. presenoldeb, ethnigrwydd, rhyw) fel y penderfynir gan y Pwyllgor.
- Cyfrannu at ddatblygu brand Clwb y Bont a hyrwyddo’r lleoliad o fewn y dref, y sir a thu hwnt.
- Gwneud Clwb y Bont yn gyrchfan ddeniadol.
- Gweithio fel llysgennad gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol a chynrychioli’r Clwb mewn cyfarfodydd a digwyddiadau.
- Creu a chynnal partneriaethau defnyddiol ar gyfer datblygu digwyddiadau a chynulleidfaoedd.
- Ymgymryd â thasgau rhesymol eraill yn achlysurol.
- Rheoli gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a GDPR.
Cyfrifoldebau Goruchwyliwr y Bar
Gwaith y Bar
- Gwasanaethu y tu ôl i’r bar yn unol â safonau a gytunwyd gyda’r pwyllgor, yn cwmpasu sifftiau yn ôl y rota y cytunwyd arno a gweithio unrhyw oriau ychwanegol rhesymol y gofynnir amdanynt.
Staff y Bar
- Llunio’r rota staff bar bob mis ymlaen llaw, gan gwmpasu pob mis calendr a sicrhau darpariaeth briodol; ymgynghori gyda’r Trefnydd Digwyddiadau a chytuno gyda’r Trysorydd.
- Rheoli staff y bar yn unol â gofynion y Pwyllgor, yn enwedig o ran cyfrifoldebau cyfreithiol y Clwb, gan gynnwys rheoliadau iechyd a diogelwch, a sicrhau bod pob aelod o staff wedi’u hyfforddi’n llawn ac yn gymwys i gyflawni eu dyletswyddau.
- Sicrhau bod staff y bar ond yn gwneud tasgau’r Clwb yn ystod oriau gwaith a bod pob aelod o staff yn cyflawni eu dyletswyddau penodedig i’r safon ofynnol.
- Llunio rhestr wythnosol o oriau a weithiwyd gan bob aelod o staff ar gyfer paratoi cyflogau yn unol â gofynion y Trysorydd, a’i hanfon ymlaen erbyn 10:00yb bob dydd Llun er mwyn sicrhau bod staff yn cael tâl yng nghanol yr wythnos.
Cyllid
- Sicrhau bod digon o arian mân ar gyfer pob sifft a chasglu newid ychwanegol o’r banc os oes angen.
- Rheoli cysoniad arian wythnosol a chadw cofnod ysgrifenedig.
- Sicrhau bod stoc yn cael ei gylchdroi’n briodol i leihau gwastraff a chronni stoc.
- Cynnal rhestr stoc wythnosol fanwl i nodi anghenion stoc a dangos gofal diogel o’r stoc; anfon y rhestr wedi’i chwblhau at y Trysorydd yn brydlon.
- Archebu stoc a sicrhau lefelau addas trwy gysylltu gyda’r Trysorydd a chymryd i ystyriaeth ddigwyddiadau sydd ar y gweill; cofnodi pob archeb a’i rhannu gyda’r Trysorydd.
- Trafod cynhyrchion neu eitemau newydd gyda’r Trysorydd yn unol ag ethos y Clwb i gefnogi cynhyrchwyr neu gyflenwyr Cymreig lle bo modd.
- Defnyddio swyddogaeth weinyddol system EPOS y Clwb ar gyfer rhedeg adroddiadau ac ychwanegu defnyddwyr staff yn unig; ni chaniateir ychwanegu/dileu cynhyrchion na gosod prisiau (cyfrifoldeb y Trysorydd).
- Derbyn stoc a chadw’n ddiogel yr holl anfonebau, derbynebau a nodiadau dosbarthu.
- Anfon yr holl ddogfennau hyn wythnosol at y Trysorydd i sicrhau bod gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.
- Cadw Llyfr Derbyn Nwyddau’r Clwb yn gyfredol.
- Cadw cofnodion arian ysgrifenedig y Clwb yn gyfredol.
- Cadw cofnodion gwastraff stoc y Clwb yn gyfredol.
- Cynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau trwy gydweithio gyda’r Trefnydd Digwyddiadau.
- Rheoli gwresogi, goleuo a dŵr poeth yn economaidd; diffodd offer diangen; dim ond addasu’r system Hive os oes angen. Sicrhau bod y gefnogwr bach sy’n sychu gwydrau wedi’i ddiffodd yn llwyr.
- Cydweithio’n rheolaidd gyda’r Trysorydd a swyddogion eraill ynghylch materion ariannol o fewn cyfrifoldeb y Goruchwyliwr Bar.
Safle
- Cynorthwyo’r Pwyllgor gyda gofynion iechyd a diogelwch (profion larwm tân wythnosol, profi offer tân, PAT ac ati).
- Adrodd am bob diffyg i’r Trysorydd yn syth a helpu i drefnu atgyweiriadau.
- Cadw’r seler yn lân ac yn daclus a sicrhau glanhau llinellau cwrw yn wythnosol.
- Cadw’r safle’n lân ac yn daclus bob amser.
- Sicrhau bod ailgylchu a sbwriel yn cael eu didoli’n gywir.
- Cyflawni dyletswyddau glanhau dyddiol/wythnosol/misol.
- Cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch yr adeilad a’i gynnwys.
Cyffredinol
- Cynorthwyo gyda’r system CCTV yn unol â gofynion y Pwyllgor a’r gyfraith.
- Diweddaru a monitro Log Digwyddiadau’r safle a rhoi adroddiadau os oes angen.
- Cadw pob cofnod yn ddiogel ac ar gael i’r Trysorydd, swyddogion trwyddedu a’r Pwyllgor ar gais.
- Darparu cymorth neu gyngor rhesymol i’r Trefnydd Digwyddiadau, Trysorydd neu’r Pwyllgor.
- Paratoi adroddiad misol gyda’r Trysorydd ar gyfer y Pwyllgor.
- Bod ar gael i adrodd yn uniongyrchol i’r Pwyllgor os oes angen.
- Rhaid cadw pob cofnod yn ysgrifenedig ac ar safle’r Clwb yn unig; ni chaniateir eu dyblygu ar gyfrifiad personol.
- Gwisgo a chyflwyno’ch hun yn briodol wrth weini bwyd a diod.
- Dilyn arferion da a chynnal enw da’r Clwb.
- Dim ond gwneud tasgau’r Clwb yn ystod oriau gwaith.
- Cefnogi a hyrwyddo Amcanion y Clwb a’i ethos.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr i osianrowlands@menteriaith.cymru erbyn 22 Mehefin 2026
