Newyddiadurwr Digidol
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno â S4C?
Mae S4C yn fwy na sianel deledu – rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddus unigryw sy’n chwarae rhan ganolog ym mywyd diwylliannol, democrataidd a chymdeithasol Cymru. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C, wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rydym yn ehangu gwylio gyda’n cynnwys, yn datblygu’n wasanaeth digidol-yn-gyntaf, ac yn ymestyn ein heffaith y tu hwnt i’r sgrin gan gyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant yr iaith, diwylliant Cymru a’r economi greadigol.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a dibynadwy i ymuno â ni fel Newyddiadurwr Digidol. Fel rhan o dîm arloesol byddwch yn cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth newyddion digidol.
Yn S4C, rydym ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Cer Amdani, Dathlu Pawb.
Byddwch yn ymuno â S4C ar adeg o newid cyffrous, gan gyfrannu at ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan.
Trosolwg y Swydd
Byddwch yn rhan o dîm sydd yn cynhyrchu straeon newyddion gwreiddiol yn ogystal â dod
a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg a Chymreig. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa fwy eang a iau, ar ffurf fideo a thestun.
Bydd gennych ddiddordeb mawn mewn creu cynnwys ar gyfer sawl platfform digidol o Tik Tok, i Instragram. Facebook ac X, ac mewn amser ar gyfer You Tube.
Bydd disgwyl bod gennych dealltwriaeth da o gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â diddordeb mewn newyddion Cymreig a byd eang.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Newyddiadurwr Digidol, byddwch chi’n:
Aelod o’r tîm Newyddion Digidol gan weithio’n agos gyda’r Golygyddion a’r Chomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes i sicrhau gwasanaeth newyddion digidol ar gyfer gynulleidfa cyfoes Cymreig.
Cynhyrchu cynnwys newyddion ar gyfer sawl platfform digidol.
Ysgrifennu penawdau bachog.
Cynhyrchu cynnwys digidol unigryw fydd yn adrodd straeon a phrofiadau personol.
Cynhyrchu straeon ac uchafbwyntiau chwaraeon.
Cynnig syniadau am straeon.
Rheoli ffrydiau byw ar y cyfryngau Cymdeithasol.
Ffilmio a golygu cyfweliadau a lluniau.
Meddwl yn greadigol am sut i gael y gynulleidfa fwyaf posib at ein cynnwys.
Dod o hyd i gyfranwyr ar ystod eang o straeon.
Gweithio fel rhan o dîm i ymateb i straeon sy’n torri.
Ymagwedd Broffesiynol a Chydweithredol
Cyfrannu at gwelliant parhaus, a diwylliant gwasanaeth o safon uchel, gan weithredu Côd Diwylliant S4C yn ymarferol.
Hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Dilyn polisïau a gweithdrefnau S4C, gan gynnwys iechyd a diogelwch, amrywiaeth, a diogelu data.
Bod yn rhagweithiol gyda’ch rheolwr llinell i fonitro a datblygu’ch perfformiad eich hun.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:
Oes gennych brofiad o gynhyrchu cynnwys digidol.
Ydych chi’n frwdfrydig dros newyddion lleol a genedlaethol.
Gallwch weithio’n annibynnol gyda rhyddid i neud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda tîm ehangach i rannu syniadau.
Ydych chi’n ymrwymedig i’ch datblygiad personol eich hun.
Ydych chi’n gyfathrebwr cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg (llafar ac ysgrifenedig).
Byddwch hefyd yn:
Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.
Cyfrannu at a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymwysterau megis CIPD, hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus.
Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.
