Comisiynydd Chwaraeon
Pam ymuno ag S4C?
Mae S4C yn ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus Am Ddim yn y DU. Rydym yn darlledu 7 diwrnod yr wythnos yn y Gymraeg ac mae chwaraeon yn rhan bwysig o’r amserlen gyda dros 550 awr yn cael eu dangos bob blwyddyn.
Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar dy orau; Balch o S4C; Dathlu Pawb; Cer amdani
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys aml-blatfform newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig sydd â diddordeb brwd mewn darlledu chwaraeon i ymuno â’n tîm o Gomisiynwyr. Mae’n rôl heriol, sy’n cyffwrdd â bron pob agwedd ar ddarlledu chwaraeon ac mae pob diwrnod yn wahanol.
Trosolwg o’r Swydd
Chwaraeon yw un o gonglfeini cynnwys S4C ar bob platfform a dyma gyfle cyffrous ymuno gyda’r tîm comisiynu gan arwain ar negydu a sicrhau hawliau chwaraeon o bob math gan gyfrannu at ymestyn at y gynulleidfa led led Cymru. Fel aelod o’r tîm comisiynu, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cyhoeddi cynnwys chwaraeon aml-blatfform ar gyfer S4C, gan gyfrannu’n sylweddol at gyflawni ein strategaeth gynnwys.
Byddwch yn cyflwyno ac yn comisiynu ystod eang o gynnwys chwaraeon byw gan gyflenwyr. Byddwch yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â’r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â gweledigaeth S4C.
Byddwch yn gyswllt allweddol ac adeiladol â’r sector cynhyrchu annibynnol a darlledwyr eraill, gan gydweithio i nodi cyfleoedd i ehangu darpariaeth chwaraeon S4C, gan dargedu cynulleidfaoedd sy’n defnyddio’r cynnwys hwnnw mewn nifer o fformatau a gwahanol blatfformau cyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am drafod a sicrhau hawliau chwaraeon i ddarlledu a chyd-ddarlledu ystod eang o chwaraeon byw o’r llwyfan rhyngwladol i chwaraeon ar lawr gwlad ar S4C.
Bydd eich cyfraniad a’ch dylanwad fel arweinydd yn hollbwysig wrth i S4C drawsnewid yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.
