Newyddiadurwr – Newyddion Ni
Wyt ti awydd bod yn gyflwynydd a gweithio yng nghanol cyffro newyddion Cymru a’r byd? Wel, dyma dy gyfle di! Mae’r rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc Newyddion Ni, yn chwilio am gyflwynydd newydd i rannu pob math o straeon – adloniant, yr amgylchedd, chwaraeon, selebs, a phrif benawdau’r dydd.
Rydyn ni’n chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â’r tîm. Fe fydd y gwaith yn amrywiol iawn – yn cyflwyno’r rhaglenni, yn gohebu ar straeon ac yn creu deunydd creadigol ar gyfer platfformau digidol. Mae’r prif dasgau yn cynnwys helpu i baratoi’r rhaglenni, ysgrifennu a darlledu, dod o hyd i straeon gwreiddiol ac awgrymu dulliau o droi syniadau yn eitemau creadigol ar gyfer pob platfform.
Mae oriau gwaith yr adran yn hyblyg, ac o bosib yn cynnwys gwaith ar y penwythnosau.
Yn ogystal â’r ffurflen gais, gofynnwn i chi anfon fideo hyd at funud o hyd ohonoch yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam eich bod am wneud y swydd hon.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
– Y gallu i gyflwyno a throsglwyddo straeon mewn ffordd syml a brwdfrydig
– Syniadau creadigol ar sut i gyfleu gwahanol straeon
– Awydd i ddatblygu sgiliau newyddiadurol ac i ddeall ystyriaethau golygyddol
– Y gallu i ddatblygu cysylltiadau newydd a chreu perthynas dda gydag ysgolion a mudiadau yn – ymwneud â phlant a phobl ifanc
– Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
– Awydd i ddatblygu sgiliau technolegol a defnyddio meddalwedd yn effeithiol i greu pecynnau ac eitemau ar blatfformau digidol
Byddwn yn cynnig hyfforddiant ymhob agwedd o’r gwaith i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.
Rydym yn bwriadu cynnal cyfweliadau yn ystod wythnos cyntaf mis Gorffennaf.
