Uwch Reolwr Busnes y Gymraeg

Teitl Swydd
Uwch Reolwr Busnes y Gymraeg
Enw’r Cwmni
Cyllid a Thollau EF
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£45,544 – £49,523
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 13/07/2026

Patrwm gweithio: Gweithio hyblyg, Llawn amser, Rhan amser, Rhannu swydd
Hyd cyflogaeth: O leiaf 12 mis dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth

Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. P’un a ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn, gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.

Ewch i’n sianel YouTube i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial.

Rydyn ni’n adeiladu rhywbeth cyffrous yn CThEF. Mae ein Cyfarwyddiaeth Profiad y Cwsmer (CXD) newydd yn dod ag unigolion talentog at ei gilydd o bob rhan o’r sefydliad. A’r un nod sydd ganddyn nhw i gyd, sef gwella profiad ein holl gwsmeriaid.

Rydyn ni yma i ddylunio a darparu gwasanaethau symlach, mwy deallus ac sy’n cynnig mwy o gymorth er mwyn diwallu anghenion amrywiol unigolion, busnesau a chyfryngwyr ledled y DU. Rydyn ni am i bob cwsmer deimlo gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol wrth iddynt gysylltu â CThEF.

Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

Gyrru’r broses o arloesi a newid – mae gennym fandad cryf gan arweinwyr CThEF, a byddwn yn fentrus ac yn gadarn wrth fynd ati i wneud hyn.

Creu eglurder a chysondeb – drwy ddilyn cynllun busnes clir a hygyrch, byddwn yn nodi ein gweledigaeth ac amcanion mesuradwy.

Grymuso ein pobl – byddwn yn cynnwys ein timau’n rheolaidd wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod gan bawb lais.

Meithrin diwylliant lle mae pawb yn ymgysylltu – lle mae cydweithio, bwriad, a brwdfrydedd dros wasanaeth i gwsmeriaid yn ffynnu.

Os ydych yn angerddol dros wneud gwahaniaeth, ac am fod yn rhan o dîm deinamig sy’n llunio profiad cwsmeriaid CThEF yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae CThEF yn cynnal sesiwn wybodaeth ar ddydd Mercher 8 Gorffennaf – rhwng 12:00 a 13:00 – i gyd-fynd â’r broses ymgeisio, lle byddwch yn gallu dysgu rhagor am y swydd. Byddwch hefyd yn gallu dysgu rhagor am CThEF gan y bobl sy’n cyflawni’r swydd ar hyn o bryd, gan gynnwys:

  • Pwy ydyn ni
    • Beth rydyn ni’n ei wneud
    • Pam rydyn ni’n gwneud hyn

Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y swydd neu’r broses ymgeisio.

Er mwyn ymuno â’r sesiwn, bydd angen i chi gofrestru drwy ddilyn y cysylltiad canlynol:

Sesiwn Wybodaeth i Ymgeiswyr – Uwch Reolwr Busnes y Gymraeg – dydd Mercher 8 Gorffennaf am 12:00pm – Llenwi’r ffurflen

Swydd ddisgrifiad

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad, sy’n rhugl yn y Gymraeg, i ymuno â’n tîm Cymraeg yng Nghaerdydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm unigryw yn CThEF, ac i ddatblygu’ch profiad a’ch sgiliau presennol er mwyn cynhyrchu deunydd a gwasanaethau Cymraeg o’r radd flaenaf.

Bydd ymgysylltu â chwsmeriaid yn ganolog i’r swydd ac, fel rhan o hyn, dylech fod yn gyfathrebwr gwych – ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd angen i chi fod yn ddiplomyddol wrth ddelio â chydweithwyr, ac wrth drafod a chyflawni dyddiadau cau er mwyn cwblhau camau gweithredu amrywiol. A hynny gan roi ystyriaeth i adegau prysur a chymhlethdodau’r uned o ran llwyth gwaith ac anghenion ein cwsmeriaid.

Rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg, gan y byddwch yn siarad Cymraeg gyda’ch cydweithwyr drwy’r amser, a bod yn hyblyg gan ddeall y gofynion ar dîm cymharol fach sy’n rhoi’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwch hefyd yn rheoli cydweithwyr ar y tîm, ac yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau CThEF o ran ymddygiad, gwerthoedd ac ethig gwaith a chydweithio gyda phawb sydd ar y tîm.

Bydd y swydd dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth, ac mae disgwyl iddi bara tua blwyddyn.

Manyleb bersonol

Fel Uwch Reolwr Busnes yn yr Uned Gymraeg, bydd gennych ran allweddol i’w chwarae wrth helpu i drawsnewid ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Gweithredu fel dirprwy i’r Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, gan gynorthwyo â’r gwaith o gyflawni gofynion y Cynllun Iaith Gymraeg.
  • Arwain wrth ymgysylltu â chwsmeriaid a chydweithwyr, trwy fod yn gyfathrebwr gwych – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg drwy gyfrwng gweithdai, cyflwyniadau a gweithgareddau ymgysylltu.
  • Rhoi cymorth wrth ddrafftio achosion busnes ac adroddiadau proffil uchel ar ran yr Uned Gymraeg.
  • Meithrin cysylltiadau cryf â chydweithwyr yn nhîm yr Uned Gymraeg yng Nghaerdydd ac ym Mhorthmadog, ac yn y tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg ym Mhorthmadog. A hynny er mwyn sicrhau gwasanaeth cydlynol.
  • Arwain prosiectau i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer gwasanaethau, gan sicrhau cydraddoldeb â’r Saesneg ar draws sianeli digidol, sianeli ysgrifenedig a sianeli cwsmeriaid.
  • Defnyddio sgiliau trafod a dylanwadu cryf i sicrhau canlyniadau mewn ffordd amserol.
  • Rheoli a datblygu tîm bach, gan sicrhau bod eu perfformiad, datblygiad ac ymddygiadau yn bodloni safonau CThEF.
  • Arwain y gwaith o gydlynu digwyddiadau mewnol ac allanol ar gyfer yr Uned Gymraeg.
  • Cynrychioli’r Uned Gymraeg a CThEF mewn digwyddiadau allanol, gan feithrin cysylltiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid.
  • Cydweithio ag adrannau eraill o’r llywodraeth, er mwyn rhannu arferion gorau o ran cyflawni gofynion y Cynllun Iaith Gymraeg ac o ran hyfforddiant Cymraeg.
  • Arwain y gwaith o drefnu rhaglen hyfforddiant Cymraeg CThEF, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn ogystal â chydlynu sleidiau a deunyddiau ar gyfer digwyddiadau. 

Meini Prawf Hanfodol

  • Gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
  • Dealltwriaeth gadarn o sut a phryd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf, a’r gallu i ddelio â sgyrsiau heriol gyda staff ar bob gradd a rhanddeiliaid allanol.
  • Sgiliau drafftio rhagorol, gan gynnwys profiad o gynhyrchu adroddiadau, atebion proffil uchel a deunyddiau hyfforddi.
  • Gallu gweithio’n effeithiol mewn amgylchedd prysur, gan reoli a blaenoriaethu llwythi gwaith sy’n gwrthdaro â’i gilydd.
  • Profiad blaenorol o reoli staff.
  • Dealltwriaeth gadarn o dechnolegau digidol cyfredol, a sut i’w rhoi ar waith.

Meini Prawf Dymunol

•    Profiad o gadeirio a hwyluso cyfarfodydd, gan gynnwys cydlynu cyfarfodydd a digwyddiadau ar raddfa fawr.
•    Dealltwriaeth o ddarpariaethau hyfforddiant Cymraeg, a’r cyfleoedd i fanteisio arnynt.
•    Gwybodaeth am ddeddfwriaeth yr iaith Gymraeg a chyflawni gofynion Cynllun Iaith Gymraeg. 

Ieithoedd

Sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg).

Ymddygiadau

Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Gweithio ar y cyd

Sgiliau technegol

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:

  • Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau prawf ysgrifenedig yn y Gymraeg (Sgiliau Technegol) yn syth ar ôl y cyfweliad. Rhoddir rhagor o wybodaeth i’r ymgeiswyr llwyddiannus pan gânt eu gwahodd i ddod am gyfweliad.

Buddion

Ochr yn ochr â’ch cyflog o £45,544, mae Cyllid a Thollau EF yn cyfrannu £13,194 tuag at fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Buddion wedi’i Ddiffinio’r Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fuddion y mae’r Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu (agor mewn ffenestr newydd).

Mae CThEF yn gweithredu polisïau Gweithio Hyblyg a Gweithio Hybrid, sy’n eich galluogi i gydbwyso eich gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd angen trefniadau gwaith mwy hyblyg, a byddwn ni’n cytuno ar geisiadau o’r fath lle bo hynny’n bosibl, gan ystyried ein hanghenion gweithredol yn ogystal ag anghenion ein cwsmeriaid.

Rydyn ni’n cynnig lwfans gwyliau hael, sef 25 diwrnod i ddechrau, ac fe gewch chi ddiwrnod ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymhwysol hyd at uchafswm o 30 diwrnod.

  • Pensiwn – Rydyn ni’n gwneud cyfraniadau tuag at bensiwn Alpha ein cydweithwyr sy’n cyfateb i o leiaf 28.97% o’u cyflog.
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
  • Cymorth personol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu.

I ddysgu rhagor am fuddion CThEF, a sut beth yw gweithio i CThEF, gwrandewch ar brofiadau rhai o’n staff neu ewch i’r dudalen ynghylch Ymuno â’r Gwasanaeth Sifil

Cyfeirnod Swydd
465103

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.