Swyddog Adnoddau Dynol (â ffocws ar Iechyd a Diogelwch)

Teitl Swydd
Swyddog Adnoddau Dynol (â ffocws ar Iechyd a Diogelwch)
Enw’r Cwmni
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Lleoliad
Sir Benfro
Cyflog
£32,597 – £34,434, pro rata
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 19/07/2026

Rhan-amser 3 diwrnod yr wythnos
Contract cyfnod penodol o 18 mis

Ydych chi’n weithiwr proffesiynol AD sy’n angerddol am Iechyd a Diogelwch?

Ydych chi’n ffynnu mewn swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i lesiant gweithwyr, i ddiwylliant y sefydliad, ac i weithredu’n rhagorol?

Rydym yn chwilio am Swyddog AD rhagweithiol a gwybodus i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Pobl – rhywun all gyfuno arbenigedd cadarn mewn AD â dull hyderus ac ymarferol o arwain yn y maes Iechyd a Diogelwch.

Ynglyn â’r Swydd

Mae’r swydd yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol mewn cyflawni gwasanaeth AD proffesiynol o ansawdd uchel ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar AD ar draws ystod eang o feysydd, ac yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer canllawiau Iechyd a Diogelwch o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod arfer gorau a chydymffurfiaeth wedi’u hymgorffori ym mhob peth a wneir ar draws y sefydliad.

Hefyd byddwch yn cyfrannu at welliant parhaus, gan lunio prosesau, polisïau a mentrau AD sy’n cynorthwyo pobl a pherfformiad.

Mae’r swydd hon yn hanfodol Gymraeg; rhaid i ymgeiswyr allu dangos sgiliau siarad Cymraeg ar lefel B2 o leiaf.

Beth Fyddwch yn ei Wneud

– Rhoi cyngor AD proffesiynol yn unol â deddfwriaeth ac arfer gorau.
– Bod yn ymgynghorydd arbenigol ar faterion Iechyd a Diogelwch, cynorthwyo rheolwyr, a sicrhau cydymffurfiaeth.
– Cynorthwyo’r gwaith o recriwtio, rheoli perfformiad, cysylltiadau gweithwyr, a mentrau llesiant.
– Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol.
– Llunio adroddiadau a mewnwelediad ar faterion AD i lywio gwneud penderfyniadau.
– Cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant ar draws pynciau AD ac Iechyd a Diogelwch.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i’w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £32,597 – £34,434, pro rata, y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.

Dyddiad Cau: 19/07/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.