Uwch Swyddog, Tîm yr Amgylchedd
Lleoliad: Caerdydd – Plas Yr Afon
Gradd / Amrediad cyflog 06: £42,662 – £46,662
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 05/07/2026
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol sy’n gallu gweithio’n gyflym, i derfynau amser tynn yn aml ac sy’n gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith mewn modd effeithiol er mwyn cyflawni mwy ar gyfer yr amgylchedd.
Fel swyddog o fewn Tîm Amgylcheddol Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent, byddwch yn adrodd i Arweinydd y Tîm Amgylcheddol ac fel un o rwydwaith o uwch-swyddogion byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn cynllunio gwaith ar lefel lle.
Mae gweithgareddau Tîm yr Amgylchedd wrth wraidd cyflenwi rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yng Nghymru a mynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd a’r argyfwng ym myd natur.
Rydym yn chwilio am uwch-swyddog sydd ag arbenigedd a phrofiad ym maes ansawdd dŵr i weithio ar reoli digwyddiadau er mwyn helpu i gyflwyno rheoleiddio effeithiol i wella’r amgylchedd dŵr. Chi fydd yr arweinydd technegol a’r mentor ar faterion rheoleiddio dŵr o fewn y tîm a byddwch yn gallu ymdrin â digwyddiadau, materion dadleuol, ymholiadau a chwynion.
Fel rhan o rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel ymatebydd Categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, bydd deiliad y swydd hefyd yn ymateb yn ddiogel, yn amserol ac yn effeithlon i ddigwyddiadau amgylcheddol ac yn ymgymryd â gwaith ymchwilio a gorfodi priodol. Bydd gofyn i chi roi cymorth a bod yn bresennol mewn digwyddiadau y tu hwnt i oriau swyddfa.
Fel sefydliad rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno adeg eich penodi.
Mae gyrru yn hanfodol i’r rôl hon. Rhaid i chi fod â thrwydded yrru lawn a chyfredol yn y DU.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Kate Rogers at Kate.Rogers@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb yr wythnos yn dechrau yr 20/07/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynrychioli CNC mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
- Gweithredu fel cynghorydd a mentor technegol ar gyfer aelodau’r tîm.
- Gweithio’n agos gydag arweinydd y tîm wrth gynllunio a chyflawni gwaith gorfodi a’r rhaglen gydymffurfio.
- Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Pan nodir diffyg cydymffurfedd, pennu a gweithredu’r opsiwn ymyrryd mwyaf priodol.
- Cydlynu datblygiad technegol aelodau o’r tîm.
- Chwarae rôl allweddol wrth nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd er mwyn cyflawni blaenoriaethau CNC yn y lle.
- Cyflawni rôl uwch yn y gwaith o gynorthwyo gwasanaeth rheoli digwyddiadau cadarn a chymwys ar gyfer CNC sy’n dilyn prosesau’r sefydliad.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau.
- Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gydag arbenigedd wedi ei ganolbwyntio ar faes penodol o fewn cylch gwaith Tîm yr Amgylchedd.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid a’r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad da mewn perthynas â phrosesau rheoleiddio a gorfodi.
- Meddu ar drwydded ddilys lawn a chyfredol y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A2 – Level sylfaen
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref.
Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion.
Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i:https://www.gov.uk/skilled-worker-visa
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

