Cyfwelydd Maes
Sefydliad: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) drwy AMS
Lleoliad: lleoliadau amrywiol ar draws y DU
Oriau: 22 awr yr wythnos ar gyfartaledd (yn hyblyg dros gyfnod o 12 wythnos)
Math o gontract: Contract 12 mis trwy AMS Skills Creation / Rhan-amser
Ynglŷn â’r swydd
Oes gennych chi ddiddordeb mewn rôl lle gallwch weithio oriau hyblyg, ac sy’n eich galluogi i gyfarfod â phobl newydd o gymunedau amrywiol a chael effaith gadarnhaol ar eich cymuned leol?
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol mwyaf y DU, gan gwmpasu amrywiaeth o bynciau economaidd, cymdeithasol a demograffig allweddol. Mae hyn yn cynnwys mesur newidiadau yng ngwerth economi’r DU, amcangyfrif maint, dosbarthiad daearyddol a nodweddion y boblogaeth, a darparu dangosyddion mewn perthynas â chwyddiant prisiau, cyflogaeth, enillion, troseddau a mudo.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm modern, arloesol a chynhwysol sydd wrth wraidd darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
Disgrifiad swydd
Dyma gyfle gwych i ymuno â’n tîm fel Cyfwelydd Maes gan weithio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy AMS. Fel Cyfwelydd Maes a fydd yn cynnal arolygon swyddogol, byddwch yn helpu i hysbysu’r Llywodraeth am gyflwr y wlad.
Bydd y rôl yn dechrau gyda phum wythnos o hyfforddiant cynhwysfawr i sicrhau y gallwch gyflawni eich rôl yn llwyddiannus.
Bydd rôl Cyfwelydd Maes yn cynnwys cyfuniad o ymweld â chyfeiriadau a samplwyd er mwyn eu hannog i gwblhau arolygon yn ogystal â chyfweld ag ymatebwyr yn eu cartrefi.
Nid yw’r rôl hon wedi ei lleoli mewn swyddfa. Bydd yn ofynnol i chi weithio o fewn 40 milltir (yn fras) o amgylch y lleoliad a ddyrennir ar eich cyfer. Caiff eich gwaith ei ddyrannu i sicrhau eich bod yn gallu teithio a chwblhau eich gwaith o fewn oriau eich contract yn yr ardal hon. Felly, bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn gallu cyflawni hyn yn seiliedig ar leoliad eich cartref o’i gymharu â’ch dewis o ran lleoliad.
Gellir gweithio oriau hyblyg yn y rôl hon ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn diwallu eich anghenion chi a’n hanghenion ni. Bydd hyn yn gyfystyr â thua 22 awr o waith yr wythnos.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ymatebwyr, bydd angen cynnal cyfweliadau rhwng 09:00 a 20:00 ac mae yna botensial y gellir cwblhau gwaith gweinyddol a theithio y tu allan i’r oriau hyn.
Bydd angen i gyfwelwyr weithio yn ystod y bore, y prynhawn a gyda’r nos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn fel sydd wedi’i nodi yn eu contractau.
Pwy rydym yn chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phersonoliaeth gyfeillgar a hyderus ac sy’n hyderus i fynd at amrywiaeth fawr o bobl a sgwrsio â nhw. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn gweithredu fel wyneb y SYG a, lle bo angen, darbwyllo unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gyndyn o gymryd rhan yn ein harolygon ac o gael ei gyfweld.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am gynllunio, trefnu a rheoli eich llwythi gwaith eich hunain, a byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth llawn i’ch helpu i wneud hyn.
Mae gofynion y rôl yn cynnwys y canlynol:
Gallu cludo a chario cyfarpar fel gliniadur a deunyddiau arolwg, cerdded rhwng cyfeiriadau ar adegau a defnyddio grisiau wrth weithio yn yr ardal.
- Byw o fewn 10 milltir i’r lleoliad lle caiff y rôl ei hysbysebu a meddu ar y gallu i deithio i gyfeiriadau o fewn 40 milltir i’r lleoliad sydd wedi’i nodi yn yr hysbysiad.
Bydd angen cynnal cyfweliadau rhwng 09:00 a 20:00. Bydd angen rhannu’r oriau yn hafal yn ystod y bore, y prynhawn a gyda’r nos, gan fod yn hyblyg i weithio ar ddydd Sadwrn pe bai angen.
Profiad o ddefnyddio gliniadur a ffôn symudol.
Yn hunanddisgybledig, hunangymhellol ac yn hapus i weithio heb gael eich goruchwylio.
Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a mwynhau cyfarfod a siarad â phobl.
Gofynion Hanfodol
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion mewnfudo y DU a dilyn rheolau cymhwysedd y Gwasanaeth Sifil
Trwydded Yrru lawn y DU (sy’n cynnwys hawliau Gwladolion yr UE).
Defnydd llawn o gar at ddibenion gwaith sy’n cynnwys at ddefnydd busnes
Prawf Adnabod
Yn gallu cysylltu â’r rhyngrwyd yn eich cartref cyn derbyn cynnig o gyflogaeth
Trwyddedau
Rhaid i chi feddu ar Drwydded Yrru lawn y DU (sy’n cynnwys hawliau Gwladolion yr UE).
Cymwyseddau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y cymwyseddau hyn yn ystod y broses ddethol: Cyfathrebu a Darbwyllo, Datrys Problemau a Blaenoriaethu a Gwydnwch.
Bydd angen i chi ateb cwestiwn am eich gallu i ddefnyddio technoleg.
Pethau y mae angen i chi eu gwybod
Manylion y broses ddethol
Bydd yr asesiad ar y cam gwneud cais yn seiliedig ar eich hanes gwaith, eich sgiliau, profiad a’ch datganiad personol. Dylech sicrhau bod eich cais yn dangos unrhyw sgiliau, gwybodaeth a phrofiad rydych yn meddu arnynt sy’n berthnasol i gynnwys y rôl.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu cyfweliad fideo a fydd yn para rhwng 30 a 45 munud.
Yn ystod y cyfweliad, byddwch yn cael eich asesu ar eich addasrwydd ar gyfer y rôl drwy roi tystiolaeth i ni i gefnogi’r hyn rydych wedi’i gynnwys yn eich cais. Dylech gymryd amser i ymgyfarwyddo â’r cymwyseddau gofynnol cyn y cyfweliad a pharatoi unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn.
Diogelwch
Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â gwiriadau Safon Diogelwch Personél Sylfaenol a gwiriad cofnod troseddol.


