Hyfforddwr Cyflogadwyedd (Cymraeg Hanfodol)

Teitl Swydd
Hyfforddwr Cyflogadwyedd (Cymraeg Hanfodol)
Enw’r Cwmni
Gyrfa Cymru
Lleoliad
Canolfan Gyrfaoedd Wrecsam, gan ddarparu cymorth yng Nghanolfan Gyrfaoedd Queensferry, Sir y Fflint, yn ôl yr angen
Cyflog
£26,276–£28,256 (yn dechrau ar £26,276)
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 12/07/2026

Ydych chi’n barod i ddefnyddio’ch sgiliau i ysbrydoli a chefnogi pobl wrth iddynt gymryd eu camau nesaf tuag at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth? Ydych chi’n mwynhau helpu cwsmeriaid i feithrin hyder a chymryd camau ymarferol tuag at eu nodau? Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn chwilio am Hyfforddwr Cyflogadwyedd sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl i gyflawni eu nodau gyrfa, i ymuno â’n tîm. Rydym yn darparu gwasanaethau canllaw a hyfforddi gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog ar gyfer pob oed ledled Cymru, gan gynnwys rhaglen Cymru’n Gweithio.

Gwybodaeth allweddol

• Lleoliad: Canolfan Gyrfaoedd Wrecsam. Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd ddarparu  gwasanaeth yng Nghanolfan Gyrfaoedd Queensferry yn Sir y Fflint pan fo angen.

• Cyflog: £26,276–£28,256, gan ddechrau ar £26,276.

• Oriau: Llawn amser, 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

• Sgiliau iaith Gymraeg: Hanfodol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd.

• Dyddiad cau: Dylid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn 12 Gorffennaf 2026.

• Proses ddethol: Cynhelir asesiadau a chyfweliadau’n ddigidol drwy Microsoft Teams. Cynhelir asesiadau ar 20 Gorffennaf 2026 a chyfweliadau ar 22 Gorffennaf a 23 Gorffennaf 2026.

Yr hyn a gynigiwn

Rydym yn cynnig pecyn buddion deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Ynglŷn â’r rôl

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys pobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd newydd neu’n gadael addysg, rhieni, oedolion sy’n ddi-waith ac yn chwilio am gymorth i fynd i mewn i waith, a phobl mewn cyflogaeth sy’n ystyried newid gyrfa. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr hyblyg ac effeithiol sy’n hyderus yn cefnogi ein sylfaen cwsmeriaid amrywiol wyneb yn wyneb a thrwy sianeli digidol.

Fel Hyfforddwr Cyflogadwyedd, byddwch yn:

• cefnogi ac ysbrydoli cleientiaid i nodi a gweithio tuag at nodau gyrfa cadarnhaol;

• darparu gwybodaeth a chyngor clir i helpu cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;

• darparu cymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys cymorth gyda CVs, chwilio am swydd a   cheisiadau;

• helpu cleientiaid i symud tuag at ganlyniadau cadarnhaol cynaliadwy, gan gynnwys addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Dylech fod wedi’ch addysgu i safon Lefel 3 neu gyfwerth, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig fel cyngor ac arweiniad, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych chi eisoes y Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd, byddwn ni’n darparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Sgiliau iaith Gymraeg – lefel ganolradd

Byddwch chi’n gallu deall a chyfathrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech chi hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.

Gofynion ychwanegol

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant

Fel cenedl, rydym yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach yn gyffredinol, ac wrth gwrs – dyma’r peth iawn i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, gan alluogi gwelliannau parhaus yn yr hyn a wnawn i bobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ym mhob gradd swydd, yn gynrychioliadol o’r dinasyddion a wasanaethwn.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau wrth recriwtio ac yn cael ei gario drwy ein holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’n gwaith – cefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Sut i wneud cais

Ewch i Wefan Recriwtio Gyrfa Cymru am ragor o wybodaeth am y rôl, ein polisïau cyflogaeth a’n telerau ac amodau.

Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau CV.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.