Comisiynydd Drama
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Comisiynwyr.
Trosolwg y Swydd
Dyma gyfle arbennig i unigolyn creadigol profiadol arwain ar ddatblygu a chomisiynu dramâu yn y Gymraeg ar S4C. O’r dyddiau cyntaf mae dramâu S4C wedi ennyn clod a chefnogaeth y gwylwyr. Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol ymhob agwedd o fyd drama sydd yn greadigol a gyda profiad hir o gyfleu cynyrchiadau mawr ar amser ac ar gyllideb. Gall drama ddiddanu ond dylai hefyd herio, gall drafod pynciau hanesyddol Cymru a phortreadu ei hardaloedd amrywiol ar sgrin, y tirlun a chymunedau.
Mae’n operâu sebon yn ran allweddol o’n cynnwys a dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ohonynt a meddu ar adnabyddiaeth a dealltwriaeth ddwfn o gynyrchiadau o’r math hyn.
Yn y tirlun digidol bydd angen ymchwilio i’r cyfleon sydd i arbrofi a gwthio ffiniau. Rydym yn chwilio am unigolyn all feddwl yn flaengar a gwreiddiol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol tra’n meithrin y genhedlaeth nesaf o awduron a chyfarwyddwyr o bob cwr o’r wlad yn y Gymraeg.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Comisiynydd Drama byddwch chi’n:
- Cyd-weithio gyda’r Prif Swyddog Cynnwys i gomisiynu cynnwys drama gwreiddiol yn Gymraeg, a fydd yn Gymreig ran cynnwys yn boblogaidd a beiddgar, yn fodd i ehangu’r gwylio ac yn ymateb i arferion gwylwyr sydd yn gynyddol yn gwylio drwy ffrydio.
- Sicrhau fod pob comisiwn drama S4C yn cael ei gyfleu yn barod i’w ddosbarthu ar y farchnad rhyngwladol.
- Datblygu cysylltiadau gyda darlledwyr a chynhyrchwyr drama rhyngwladol i sicrhau cyfleon newydd i’r sector yng Nghymru.
- Dan arweiniad y Prif Swyddog Cynnwys, cyfrannu gyda’r Comisiynydd Ffilm, Pennaeth Cynllunio a Phennaeth Digidol a Ffrydio at greu ac adolygu’n gyson strategaeth gynnwys drama aml-lwyfan S4C.
- Gweithio gyda’r Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc a’r Comisiynydd Cynnwys Digidol ar gynyrchiadau sy’n apelio at gynulleidfaoedd iau ac ar blatfformau newydd.
- Adolygu, asesu ac arwain ar strategaeth y ddwy gyfres ddrama‘sebon’ S4C, gan gwrdd yn rheolaidd gyda’r cynhyrchwyr ac awduron a sgriptwyr.
- Arwain ar gynnig adborth a dadansoddi data o sawl ffynhonell am arferion gwylio operau sebon a dramau.
- Sicrhau ein bod yn cynnig amrywiaeth o bynciau cyfoes yn ein dramau a’n operau sebon.
- Cydweithio yn agos gyda’r BBC wrth oruchwylio cynnwys drama a gynhyrchir ganddynt i S4C fel rhan o’r bartneriaeth strategol.
- Ymweld ar set pob cynhyrchiad drama ac y broses olygu.
- Hybu creadigrwydd a meithrin arloesedd at gynnwys drama newydd.
- Datblygu partneriaethau hir-dymor gyda chynhyrchwyr sydd â syniadau arloesol sydd yn cyd-fynd a gweledigaeth a strategaeth S4C, a hynny er mwyn sicrhau cyflenwad cyson o ddramau o safon a datblygu talent yn y sector, gan adrodd yn ôl i’r Prif Swyddog Cynnwys a’r Prif Weithredwr.
- Flaengar wrth hybu amrywiaeth ar sgrin ac ar gynhyrchiadau gan gweithio gyda’r Tim Pwrpas Cymdeithasol.
- Cyfarfod yn rheolaidd â chwmnïau annibynnol yn eu swyddfeydd a lleoliadau gwaith i drafod a datblygu syniadau newydd, gwerthuso pa rai sydd yn cyd-fynd gyda strategaeth gynnwys diweddaraf S4C a thrafod gyda’r adrannau perthnasol i sicrhau gwerth am arian, i gyd-fynd gyda’n anghenion amserlenu a ffrydio.
- Cynnig arweiniad a chyngor yn achlysurol ar unrhyw gynnwys wedi ei sgriptio gan gydweithio a chomisiynwyr mewn genres eraill mewn meysydd fel dramau i blant a phobol ifanc a chomedi.
- Sicrhau ein bod yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.
- Sicrhau bod comisiynau gan gyflenwyr yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o anghenion cynhyrchu yn y Gymraeg, amrywiaeth yn y cynhyrchiad ar sgrin ac oddi arno, cost, ansawdd, cynyddu hawliau i’r eithaf, ac anghenion ariannu.
- Sicrhau fod pob cynhyrchiad yn castio prif actorion gwahanol mewn cynyrchiadau gaiff eu ryddhau’n agos i’w gilydd.
- Gwrando a chymryd adborth a mewnbwn cynhyrchwyr i syniadau ac adrodd yn ôl i’r Prif Swyddog Cynnwys a’r Prif Weithredwr.
- Gweithredu ac adolygu fod datblygiad yn y rhai sydd medru’r Gymraeg yn y prif swyddi ar bob cynhyrchiad. Yn benodol Uwch Gynhyrchwyr, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd, Awduron a Sgriptwyr, a fod y prif rolau hyn yn cael eu gweithredu yn y Gymraeg.
- Annog diwylliant uchelgeisiol a beiddgar sy’n barod i gymryd risg.
- Cynrychioli S4C mewn fforymau cyhoeddus, cynadleddau, rheithgorau a.y.b.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:
- Bydd ganddo chi dealltwriaeth ddwfn o ddramâu, a’r cyfleon a’r heriau wrth ddarlledu yn aml-blatfform.
- Byddwch yn gallu datblygu a chynnal perthnasau positif a chynhyrchiol gydag unigolion, sefydliadau a chwmnïau allanol.
- Ydych chi’n frwdfrydig dros greu diwylliant gwaith cynhwysol, egnïol ac iach.
- Gallwch weithio’n annibynnol gyda rhyddid i neud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda tîm ehangach i rannu syniadau.
- Ydych chi’n gyfathrebwr cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg (llafar ac ysgrifenedig – cymorth gloywi iaith ar gael).
Byddwch hefyd yn:
- Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a Diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
- Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
- Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
- Y cyfle i gyfrannu’n sylweddol at ddiwylliant creadigol Cymru.
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
- Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
- Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol.
- Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
- Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
- Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
- 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â’r Prif Swyddog Cynnwys Llion.Iwan@s4c.cymru.
Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn amlygu’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)
Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn. Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd
Cytundeb: 4 blwyddyn yn y lle cyntaf
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlusurol, yn rhyngwladol.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Defnyddio AI
Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun. Gall ceisiadau nad ydynt yn wreiddiol neu sydd wedi’u cynhyrchu gan AI gael eu gwrthod.
Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl.
Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

