Comisiynydd Ffilm (Rhan-amser)

Teitl Swydd
Comisiynydd Ffilm (Rhan-amser)
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)
Cyflog
Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 27/07/2026

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Comisiynwyr.

Trosolwg y Swydd

Dyma swydd newydd gyffrous yn hanes byd ffilm Cymru a fydd yn gyfle unigryw i unigolyn talentog a profiadol helpu siapio y gyfres nesaf o ffilmiau yn yr iaith Gymraeg ar gyfer y sgrin fawr. Fel rhan o’n Strategaeth 2030. A chynllun Sinema Cymru ar y cyd gyda Chymru Creadigol, bwriad S4C yw cynhyrchu ffilm ffuglen yn flynyddol.

Bydd gennych angerdd at y byd ffilm, drama a’r theatr Gymraeg ac  yn unigolyn profiadol ac yn gyfrifol am arwain ar y cynllun i ddatblygu syniadau i fod yn sgriptiau a hefyd cyd-lynu’r gwaith o ymgyfarwyddo rhai o’r cwmnïau ac unigolion llai profiadol gyda’r byd ffilm.  

 Yn sgil galwad am syniadau, bydd y rôl yn arwain ar broses o ddatblygu’r syniadau ar y cyd gyda chynrychiolydd Cymru Creadigol, tra’n adrodd i’r Prif Swyddog Cynnwys. 

Wedi’r datblygu, bydd y comisiynydd yn rhan o’r trafod wrth ystyried pa ffilm i’w chomisiynu, gan fod yn brif ddolen gyswllt gyda’r cwmni cynhyrchu trwy’r broses o ffilmio, cyfleu a dosbarthu’r cynnwys. Bydd y comisiynydd yn cyfrannu at y broses o ddewis sgript i’w chynhyrchu ar gyfer y sgrin.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel Comisiynydd Ffilm byddwch chi’n:

  • Sicrhau fod strategaeth ffilm S4C a Sinema Cymru yn cael ei gweithredu yn unol â strategaeth cynnwys S4C.
  • Arwain ar gynlluniau ar ddenu talent ar sgrin ac yn y timau cynhyrchu i weithio yn y Gymraeg a bod yn gyswllt gyda’r cyrff ariannu eraill.
  • Gyfrifol am gyllideb gan sicrhau fod y sgriptiau yn cyd fynd gyda’r gyllideb ac arwain ar y cynhyrchu a thrafod ar y dosbarthu cyn darlledu’n llinol. 
  • Goruchwylio’r broses cyhoeddi blynyddol o gynllun Sinema Cymru, gan arwain ar ystyried y ceisiadau a’r vbroses o ddatblygu’r cynlluniau hynny ac yr un prosiect blynyddol fydd yn mynd i gynhyrchu.
  • Sicrhau fod un o’r syniadau fydd yn cael eu datblygu yn cyrraedd safon i’w cynhyrchu ar gyfer y sinema a’r farchnad ffilm – a hynny’n flynyddol.
  • Ymweld gyda set a lleoliad ffilmio yn rheolaidd yn ystod y cynyrchiadau.
  • Brif gyswllt gyda’r cynhyrchiad ffilm blynyddol ac y prosiectau fydd yn cael eu datblygu.
  • Brif ddolen gyswllt S4C gyda chynllun Sinema Cymru a’r rhan ddeiliaid.
  • Cyd lynu y broses hyrwyddo a sicrhau fod cynllun dosbarthu wedi gynllunio gyda dosbarthwr ac hyrwyddwyr profiadol.
  • Dirprwyo a chefnogi y comisiynydd drama  pan fo angen.
  • Cynrychioli S4C a Sinema Cymru mewn digwyddiadau ac yn gyswllt ar gyfer y wasg a’rcyfryngau am Sinema Cymru, yn ogystal â chyswllt rhwng y cynyrchiadau a thimau mewnol S4C.
  • Delio gyda rhan-ddeiliaid gan gynnwys cynrychiolwyr ariannol a gwleidyddol – yng Nghymru a’n rhyngwladol.

Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:

  • Bydd ganddo chi dealltwriaeth o’r byd ffilm, y cyfleon a’r heriau 
  • Byddwch yn gallu datblygu a chynnal perthnasau positif a chynhyrchiol gydag unigolion, sefydliadau a chwmnïau allanol  
  • Ydych chi’n frwdfrydig dros greu diwylliant gwaith cynhwysol, egnïol ac iach. 
  • Gallwch weithio’n annibynnol gyda rhyddid i neud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda tîm ehangach i rannu syniadau. 
  • Ydych chi’n gyfathrebwr cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg (llafar ac ysgrifenedig – cymorth gloywi iaith ar gael).

Byddwch hefyd yn:

  • Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
  • Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.


Beth fyddwch chi’n ei gael?

  • Y cyfle i gyfrannu’n sylweddol at ddiwylliant creadigol Cymru.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
  • Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
  • Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ein gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol.
  • Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
  • Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
  • Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
  • 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â’r Prif Swyddog Cynnwys Llion.Iwan@s4c.cymru.

Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn amlygu’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Manylion eraill

Lleoliad:  Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)

Cyflog:  Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.  Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.  Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd.

Cytundeb: 3 blwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau gwaith:  18 awr yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 3 mis

Gwyliau:  Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlusurol yn rhyngwladol.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych ar gael yn ystod mis Awst.  Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Defnyddio AI

Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun. Gall ceisiadau nad ydynt yn wreiddiol neu sydd wedi’u cynhyrchu gan AI gael eu gwrthod.

Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr. Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych ar gael yn ystod mis Awst.  Rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.