Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes

Teitl Swydd
Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa).
Cyflog
£27,470 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 17/07/2026

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C – Mwy na Sianel Deledu

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn cydweithio yn agos gyda’r Swyddogion Materion Busnes, y Swyddog Hawliau a’r tîm Rheoli Cynnwys ac Amserlennu er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio’n gywir a bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu’n gywir yn ogystal â helpu gyda gweinyddiaeth y tîm busnes.

Byddwch yn sicrhau bod yr holl wybodaeth (elfennau hawliau a busnes) am y rhaglenni ar gael i dimoedd ac adrannau eraill S4C drwy gyfathrebu cyffredinol effeithiol a thrwy ddefnyddio system gyfrifiadurol S4C (Cwmwl, system archif  a BSM neu unrhyw olynydd).

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan wrth gyd-weithio â’r timoedd mewnol a chwmnïau allanol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Byddwch yn:

  • Darparu cymorth i’r Swyddogion Busnes a’r Swyddog Hawliau o dan arweiniad arweinydd Materion Busnes. Mae’r tîm yn gweithio’n agos â’r Comisiynwyr i sicrhau bod cynnwys sy’n cael ei gomisiynu / drwyddedu neu ei brynu yn cael ei negydu, ei gontractio a’i weinyddu yn effeithiol ac yn effeithlon a bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio’n gywir â bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu’n gywir.
  • Cydweithio gyda chyd-aelodau staff ac eraill i sicrhau bod gan S4C yr hawliau priodol er mwyn darlledu rhaglenni ar amrywiol lwyfannau S4C.
  • Sicrhau fod y wybodaeth am yr hawliau yn y cynnwys a gomisiynir wedi ei nodi’n gywir ar system wybodaeth fewnol S4C.
  • Cydweithio gyda’r adran gynllunio i sicrhau fod y cynnwys o fewn trwydded ac yna ail-drwyddedu yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod cwmnïau cynhyrchu yn darparu’r gwaith papur angenrheidiol (busnes a hawliau) ar gyfer pob cynhyrchiad S4C yn unol â’r amserlen a gytunwyd.
  • Sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, cyflawn ac yn cyd-fynd â’r hyn a nodwyd yn y cytundeb rhaglen.
  • Cynnal perthynas agos gyda chwmnïau cynhyrchu er mwyn sicrhau cywiriad o unrhyw wallau neu ddiffyg yn y gwaith papur.
  • Danfon llythyron atgoffa at gwmnïau cynhyrchu yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo a chadarnhau gyda thîm cyllid S4C pan fo’r gwaith papur terfynol i gyd wedi ei dderbyn ar bob cynhyrchiad er mwyn rhyddhau’r taliad olaf i’r cynhyrchydd.
  • Gwneud gwaith ymchwil lle bod angen clirio cynnwys o’r archif ar gyfer ail-ddarlledu lle nad yw’r gwaith papur cyflawn ar gael.
  • Cyfathrebu a chreu perthynas efo chwmnïau archif er mwyn clirio ein deunydd archif ar gyfer ail ddarlledu, llifo a rhoi ar wasanaeth “Clic” gan sicrhau gwerth am arian.
  • Bod yn gyfrifol am weinyddu’r system ail ddarlledu gan sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael ac yn cael ei fewnbynnu i’r system gyfrifiadurol fewnol yn gywir.
  • Cadarnhau unrhyw daliadau sy’n ddyledus i drydydd parti (ee – deunydd archif) a thrafod trwyddedau bellach yn ôl y gofyn a pharatoi amcan gost ar gyfer ail ddarlledu rhaglenni neu gyfresi yn ôl yr angen.
  • Trafod ffioedd a threfnu ymestyn trwyddedau lle bo angen gyda deiliaid hawliau trydydd parti er mwyn ail-ddarlledu rhaglenni
  • Cynorthwyo gyda darparu hyfforddiant i gwmnïau ar sut ddefnyddio systemau newydd S4C yn ôl y gofyn.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi a danfon adroddiadau rheolaidd priodol at gymdeithasau casglu (e.e. PRS, MCPS, DUK) ac Ofcom yn ôl yr angen.
  • Ffeilio a sganio dogfennau.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

Byddwch hefyd yn:

  • Ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn  cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein  holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen. 
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
  • Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
  • Cyfrannu at a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.

Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:

  • Oes gennych brofiad blaenorol o waith gweinyddol, yn ddelfrydol o fewn y cyfryngau darlledu.
  • Oes gennych wybodaeth o’r cyfryngau ac yn benodl gwaith papur sy’n gysylltiedig gyda chynhyrchiadau.
  • Oes gennych brofiad neu ddiddordeb mewn gweithio â systemau, prosesu gwybodaeth, a chynnal cofnodion cywir.
  • Oes gennych ddealltwriaeth o brosesau cynhyrchu teledu.
  • Ydych yn berson trefnus ac yn talu sylw i fanylder.
  • Oes gennych sgiliau digidol cryf ac yn gyfarwydd yn gweithio gyda phecynnau meddalwedd gwahanol- e.e. Pecynnau Microsoft, systemau darlledu.
  • Oes gennych y gallu i gyfathrebu ac i weithio fel rhan o dîm.
  • Oes gennych ddiddordeb mewn pwysigrwydd cadwraeth a chydymffurfiaeth.
  • Ydych yn gallu datrys problemau a rheoli amser yn bwrpasol.

Beth fyddwch chi’n ei gael?

  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
  • Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
  • Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys mynediad at gymwysterau, hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau a rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
  • Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
  • Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
  • 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch a pobl@s4c.cymru

Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn amlygu’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog:  £27,470 y flwyddyn

Oriau gwaith:  35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cytundeb:  Parhaol

Cyfnod prawf:  3 mis

Gwyliau:  Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 17 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rhestr Fer:  20 Gorffennaf 2026

Cyfweliadau:  23 Gorffennaf 2026

Defnyddio AI

Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun.

Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.

Sgiliau Cymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn falch o fod yn ddarlledwr Cymraeg ac rydym yn disgwyl i holl aelodau’r tîm werthfawrogi a pharchu’r iaith a’r diwylliant. Rydym yn cefnogi ac yn annog dysgu Cymraeg yn y gweithle, ac rydym yn chwilio am rywun sy’n agored i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwerthfawrogiad o’r iaith fel rhan o’u taith gyda ni.

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 17 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cliciwch ar y ddolen Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.