Comisiynydd Cynnwys Digidol

Teitl Swydd
Comisiynydd Cynnwys Digidol
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 diwrnod yn y swyddfa)
Cyflog
Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 yf
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 27/07/2026

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys newydd aml-blatfform. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn dynamig, creadigol a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ddatblygu ein cynnwys digidol.

Trosolwg y Swydd

Dyma gyfle arbennig i unigolyn profiadol a galluog arwain, diffinio a datblygu strategaeth gynnwys byd digidol ac aml blatfform S4C.  Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynwyr Cynnwys eraill, y Pennaeth Ffrydio a Digidol, y Pennaeth Cynllunio a Rheoli Cynnwys yn ogystal â thimoedd eraill yn S4C gan gynnwys y tîm technegol, y tîm materion busnes a chyllid a’r tîm cyfreithiol.   

Wrth i S4C ddatblygu ein cynnwys digidol rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a chreadigol all ddatblygu presenoldeb S4C ar draws platfformau digidol.  Wrth ymateb i’r newidiadau mewn arferion gwylio a chynhyrchu cynnwys digidol ar amrywiol blatfformau, bydd angen dealltwriaeth ddofn o’r maes, yn ogystal â phrofiad o gynhyrchu cynnwys.  Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn cynnwys sydd wedi ei gomisiynu a’i greu yn benodol ar gyfer platfformau digidol, a bydd y rôl yma yn gyfrifol am lunio gweledigaeth ar gyfer denu cynulleidfaoedd newydd at gynnwys S4C ar YouTube.

Bydd y Comisiynydd Cynnwys Digidol yn sicrhau safonau golygyddol uchel a rhagoriaeth greadigol, yn ogystal ag aliniad gyda blaenoriaethau strategol S4C. 

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Fel rhan o’r Tîm Comisiynu, byddwch chi’n:

  • Gweithio i gyflawni strategaeth 2030 S4C.
  • Gyswllt yn y broses gomisiynu i sicrhau fod y cynnwys yn cael ei gyfleu ar amser ac o fewn cyllideb gan gyd-fynd gyda gofynion cyfreithiol, golygyddol a chydymffurfiaeth.
  • Meithrin a rheoli perthnasoedd â chyflenwyr, gan gynnwys darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu, partneriaid cynnwys allweddol, cwmnïau technoleg a datblygwyr cynnwys digidol fel y bo’n briodol.
  • Cydweithio gyda chyflenwyr a chwmnïau annibynnol i drafod syniadau, cyfleoedd ariannu a defnydd o dalent.
  • Sicrhau ein bod yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth.
  • Adnabod cyfleoedd ac arwain ar gynlluniau i ddatblygu talent. 
  • Annog diwylliant uchelgeisiol a beiddgar sy’n barod i gymryd risg.
  • Cynrychioli S4C mewn fforymau cyhoeddus, cynadleddau, rheithgorau a.y.b.

Fel Comisiynydd Cynnwys Digidol, byddwch chi’n:

  • Aelod o’r tîm comisiynu ac yn adrodd i’r Prif Swyddog Cynnwys gan weithio ar draws y genres gydag aelodau eraill y tîm comisiynu.
  • Comisiynu cynnwys yn benodol ar gyfer platfformau digidol gan osod cyfeiriad digidol creadigol ar draws adrannau S4C, deall sut mae casglu a dadansoddi data digidol gan adnabod patrymau’r defnyddwyr wrth eu gwylio a rhannu.
  • Brofiadol wrth arwain a chynghori ar faterion cydymffurfiaeth.
  • Gyfarwydd gyda chynnwys S4C ar y platfformau ac yn medru adnabod a manteisio ar y cyfleoedd sydd yn codi.
  • Arweinydd naturiol ac ysbrydoledig gydag adnabyddiaeth drylwyr o’r sector gynhyrchu yng Nghymru.
  • Brofiadol yn delio gyda chyllidebau mawr a sut i sicrhau gwerth am arian yn y byd digidol.
  • Arwain a helpu datblygu a chynyddu cynnwys digidol ar yr holl blatfformau digidol,  ond yn benodol ar You Tube.
  • Cefnogi cwmnïau i  ddatblygu cynnwys digidol, felly rhaid bod yn arweinydd golygyddol ar syniadau a chynyrchiadau, gan gynnig adborth rheolaidd, manwl ac adeiladol.
  • Cydweithio gyda’r comisiynwyr i ddatblygu cynnwys traws genre gwreiddiol ar gyfer yr holl blatfformau digidol.
  • Cydweithio gyda’r Tîm Pwrpas Strategol i sicrhau bod amrywiaeth a chynwysedd yn cael ei ystyried ym mhopeth y gwnawn ni.
  • Darparu mewnbwn golygyddol ar sut mae cynnwys yn cael ei gyflwyno ar lwyfannau, a thrafod penderfyniadau optimeiddio llwyfannau gyda’r Pennaeth Ffrydio a Digidol a’r Pennaeth Cynllunio a Rheoli Cynnwys.
  • Sicrhau bod y cynnwys digidol yn cyd-fynd gyda’r strategaeth gynnwys ehangach gyda nôd arbennig o ddenu gwylwyr ifanc a grwpiau eraill gaiff eu blaenoriaethu o dro i dro.
  • Sylwi ar dueddiadau allweddol yn y maes darlledu a chyhoeddi digidol o ran pynciau ac arddulliau cynhyrchu newydd a chydweithio gyda’r comisiynwyr ar hynny.
  • Arwain ar gynnig adborth a dadansoddi data o sawl ffynhonnell am arferion gwylio digidol.
  • Hybu creadigrwydd a meithrin arloesedd ar draws cynnwys digidol.

Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:

  • Bydd gennych chi brofiad o gynhyrchu a golygu cynnwys gyda dealltwriaeth ddofn o arferion cyfryngau cymdeithasol.
  • Bydd gennych chi sgiliau arwain cryf gyda’r gallu i ddylanwadu eraill mewn ffordd bositif.
  • Byddwch yn gallu datblygu a chynnal perthnasau positif a chynhyrchiol gydag unigolion, sefydliadau a chwmnïau allanol.
  • Ydych chi’n frwdfrydig dros greu diwylliant gwaith cynhwysol, egnïol ac iach. 
  • Gallwch weithio’n annibynnol gyda rhyddid i neud penderfyniadau ond hefyd yn mwynhau cydweithio gyda thîm ehangach i rannu syniadau.
  • Ydych chi’n medru blaenoriaethu yn effeithiol pan fo  sawl terfyn amser  yn gwrthdaro.Ydych chi’n gyfathrebwr cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg (llafar ac ysgrifenedig – cymorth gloywi iaith ar gael).

Fel Comisiynydd byddwch yn: 

Byw a hybu gwerthoedd S4C sef: 

  1. Ar Dy Orau  

Annog ein gilydd i dyfu, datblygu a chyflawni’n llawn ac yn cefnogi’n gilydd i fod yn rhagweithiol, cymhelliol ac ymroddedig.  

  • Balch o S4C  

Credu yn genhadaeth S4C, bod yn falch o’r llwyfan rydym yn ei ddarparu i’r Gymraeg a’i Diwylliant a hyrwyddo’r sianel a’r gwaith rydym yn ei wneud.  

  • Dathlu Pawb  

Gwerthfawrogi amrywiaeth a cheisio creu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu a’u gwerthfawrogi ac yn ymfalchïo yn llwyddiant ein staff .  

  • Cer Amdani  

Bod yn ddewr, yn greadigol ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth i’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau. 

  • Cyfathrebu yn effeithiol a gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr ac eraill i sicrhau ein bod yn gwireddu ein hamcanion corfforaethol a rhagoriaeth greadigol gan sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol â’n hymrwymiadau strategol. 
  • Creu amgylchedd sy’n cefnogi perfformiad uchel, arloesol, cydweithio, llesiant, datblygiad, ymgysylltu a grymuso staff. 
  • Cynrychioli S4C mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau allanol yn ôl yr angen a gweithredu fel ei lysgenhadwr. 
  • Dirprwyo ar ran eich Rheolwr Llinell yn ei (h)absenoldeb neu fel bo’n ofynnol yn y meysydd sy’n gysylltiedig â’ch gwaith chi.  

Ymagwedd Broffesiynol a Chydweithredol 

  • Gweithio’n gadarnhaol ar draws y sefydliad.  
  • Hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. 
  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau S4C, gan gynnwys iechyd a diogelwch, amrywiaeth, a diogelu data. 
  • Bod yn rhagweithiol gyda’ch rheolwr llinell i fonitro a datblygu’ch perfformiad eich hun. 

Byddwch hefyd yn:

  • Sicrhau bod y gwaith yn cyfrannu tuag at gyflawni  strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl y gofyn sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gwarchod data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
  • Cyfrannu mewn ffordd bositif tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
  • Cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cydweithio gyda’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysfawr sy’n trin pawb gyda pharch.


Beth fyddwch chi’n ei gael?

  • Y cyfle i gyfrannu’n sylweddol at ddiwylliant creadigol Cymru mewn maes arloesol.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
  • Gweithio mewn amgylchedd hyblyg o fewn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
  • Mae S4C yn ymrwymo i dwf personol ei gweithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr i wella sgiliau a hyrwyddo gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol.
  • Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
  • Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hybu a chadw iaith a diwylliant Cymru drwy eu gwaith.
  • Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
  • 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu yn raddol hyd at 32 diwrnod ymhen 9 mlynedd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â’r Prif Swyddog Cynnwys Llion.Iwan@s4c.cymru.

Yn eich cais, sicrhewch eich bod yn amlygu’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol isod ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.

Manylion eraill 

Lleoliad:  Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 diwrnod yn y  swyddfa) 

Cyflog:  Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.  Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.  Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd 

Cytundeb: 4 blwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau gwaith:  35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.   

Cyfnod prawf: 3 mis 

Gwyliau:  Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau. 

Pensiwn:  Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.   

Teithio:  Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau  yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig ac yn achlysurol, yn rhyngwladol. 

Ceisiadau  

Dylid anfon ceisiadau erbyn  9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at pobl@s4c.cymru.

Nid ydym yn derbyn CV. 

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr.  Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst.  Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Defnyddio AI 

Os ydych chi’n dewis defnyddio AI neu offer tebyg, gwnewch yn siŵr bod eich ymatebion yn fanwl gywir, yn onest ac yn adlewyrchu’ch profiad a’ch geiriau eich hun. Gall ceisiadau nad ydynt yn wreiddiol neu sydd wedi’u cynhyrchu gan AI gael eu gwrthod. 

Yn ystod y cyfweliad, ni chaniateir defnyddio AI nac offer recordio, oni bai bod hynny wedi’i gytuno ymlaen llaw ar sail hygyrchedd. Gall unrhyw dystiolaeth o ddefnydd heb ganiatâd arwain at dynnu’ch cais yn ôl. 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth  

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.   

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.  

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn  9.00 ar ddydd Llun 27 Gorffennaf 2026 at pobl@s4c.cymru.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Awst yn dibynnu ar argaeledd ymgeiswyr.  Gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw dyddiadau nad ydych chi ar gael yn ystod mis Awst.  Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.