Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith – Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Teitl Swydd
Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Enw’r Cwmni
Coleg Cambria
Lleoliad
Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy
Cyflog
£33,912 – £38,218 
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 19/07/2026

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.Crynodeb o’r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith – Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol: Llawn Amser 

Cyflog: £33,912 – £38,218 

Mae gennym ni gyfle cyffrous ar gyfer Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith sy’n siarad Cymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

  • Asesu’r ystod lawn o gymwysterau yn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad Dyfarnu sy’n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. 
  • Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr ar draws Gogledd Cymru, sydd wedi’i bennu gan fformiwla berthnasol y coleg.
  • Cynnal asesiad cychwynnol ar gyfer dysgwyr, cofrestru ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu.
  • Cyflwyno sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-1 neu weithdy (argymhellir maint grŵp mwyaf o 8).
  • Monitro cynnydd dysgwyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth cadarnhaol iddyn nhw a’u helpu i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth. 
  • Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios sydd wedi eu cwblhau ar gyfer prosesau sicrhau ansawdd mewnol. 

Rhaid i chi gael

  • Cymhwyster Lefel 4 o leiaf ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Profiad amlwg yn y diwydiant mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cymhwyster asesydd neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny (TAQA) 
  • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd neu yn fodlon gweithio tuag at hynny (Uned 401 TAQA ar hyn o bryd) 
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Cymraeg/Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu’n barod i weithio tuag at un. 
  • Profiad o gysylltu a phartneru â rheolwyr allanol yn y diwydiant
  • Gallu cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni
  • Gallu dangos gwydnwch personol i ymdopi ag amrywiaeth o sefyllfaoedd anodd
  • Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd o fewn addysg
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg

Hanfodol ydy sgiliau’r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a’n gwasanaethau dwyieithog.

Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.  

Rydyn ni’n adeiladu coleg sy’n adlewyrchu’r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn.

Mae’r rôl hon wedi’i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi’i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.

Mae’n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae’n drosedd gwneud cais os ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw’n anaddas i weithio gyda phlant.

Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer mae swyddi’n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau.  Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg 

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig 

Cyfeirnod Swydd
CC/3149

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.