SWYDDOG GWAITH ACHOS (Cymraeg)
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)? Oes gennych chi sgiliau da o ran gwasanaeth cwsmeriaid neu ddelio â chwynion?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio unigolyn Graddedig i rôl Swyddog Gwaith Achos i ddarparu gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd ac eraill a all gysylltu â swyddfa’r Ombwdsmon gyda chwynion neu ymholiadau.
Yn y swydd, byddwch yn rheoli llwyth achosion, yn cynnal asesiadau cychwynnol o gwynion ac yn arfer awdurdod dirprwyedig yr Ombwdsmon. Byddwch yn defnyddio’r system rheoli achosion mewnol, yn prosesu cwynion a gohebiaeth gan gynnwys gwrthodiadau syml, fel cwynion sydd yn amlwg y tu allan i’n hawdurdodaeth.
I lwyddo yn y swydd hon, bydd angen i chi ddangos sgiliau gwych ar y ffôn ac o ran gwasanaeth cwsmeriaid, gallu delio â chwynion yn ogystal â gallu defnyddio TG a gallu gwneud gwaith yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig).
Mae hon yn swydd hybrid, lle mae angen rhywfaint o bresenoldeb bob wythnos yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n hanfodol bod y rhai sy’n gweithio i’r Ombwdsmon yn ddiduedd a’u bod yn cael eu hystyried yn ddiduedd. Felly, ni chaniateir i staff sy’n gweithio i’r Ombwdsmon gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol ac mae’n rhaid iddynt osgoi gwneud sylwadau gwleidyddol yn gyhoeddus, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol. Cyn eu penodi, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus lofnodi datganiad yn cadarnhau eu bod yn cytuno i lynu at ein polisi o ran cyfryngau cymdeithasol ac adolygu eu hôl troed cyfryngau cymdeithasol ar draws pob llwyfan a ddefnyddir ganddynt.

