Prif Swyddog Trwyddedu Arbenigol
Lleoliad: Abertawe – Maes Newydd, Bangor – Maes y Ffynnon, Bwcle, Caerdydd – Parc Cathays, Hwlffordd – Llys Afon
Gradd / Amrediad cyflog 07: £47,055 – £52,770
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau : 16/08/2026
Y rôl
Fel Prif Swyddog Trwyddedu Arbenigol, byddwch yn un o’r aelodau lefel uchaf yn Nhîm Trwyddedu Morol CNC, yn gyfrifol am asesu rhai o’r ceisiadau mwyaf cymhleth ac uchel eu proffil am drwyddedau morol.
Byddwch yn cynnal asesiadau technegol manwl, yn ymgynghori ag arbenigwyr, ac yn sicrhau bod penderfyniadau’n gadarn, yn amddiffynadwy, ac wedi’u dogfennu’n dda. Efallai y byddwch hefyd yn gweithredu fel tyst arbenigol mewn ymchwiliadau cyhoeddus, gan gefnogi rheoleiddio tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae hon yn rôl brysur, sy’n golygu gweithio wrth ddesg, lle byddwch chi’n rheoli sawl achos ar yr un pryd – gan gydbwyso terfynau amser, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg o dan amserlenni statudol tynn. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth fentora a chefnogi’r tîm ehangach, gan helpu i gynnal safonau technegol uchel ym maes trwyddedu morol.
Os ydych chi’n chwilio am rôl sy’n cyfuno her dechnegol sylweddol, effaith amgylcheddol ac arweinyddiaeth – dyma hi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Emmer Litt at Emmer.Litt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb wythnos yn cychwyn 7 Medi 2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Amdanom ni
Fel prif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu, cynnal a gwella ein hadnoddau naturiol – gan helpu i sicrhau amgylchedd iach i bobl a bywyd gwyllt, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein Gwasanaeth Trwyddedu yn ganolog i’r genhadaeth hon. Drwy asesu ceisiadau yn drylwyr ar gyfer ystod eang o weithgareddau rheoleiddiedig, rydym yn lleihau risgiau amgylcheddol, yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy, ac yn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol ledled Cymru.
Er ei bod yn fach o ran maint, mae gan ein hadran gyrhaeddiad eang, yn cynnwys wyth tîm arbenigol sy’n gweithio ar y cyd i rannu gwybodaeth a hyrwyddo arfer gorau. Bydd eich rôl o fewn y Tîm Trwyddedu Morol, lle byddwch yn helpu i reoleiddio rhai o’r gweithgareddau mwyaf cymhleth a phwysig o ran yr amgylchedd sy’n digwydd yn nyfroedd Cymru.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Penderfynu ar geisiadau am Drwyddedau Amgylcheddol gan safleoedd morol o ddiddordeb cyhoeddus a / neu wleidyddol uchel, gan reoli cyfathrebu effeithiol gyda phob parti â diddordeb, gan gynnwys grwpiau rhanddeiliaid y llywodraeth a chenedlaethol.
- Dadansoddi data a gwybodaeth hynod gymhleth i gynorthwyo a rhoi gwybodaeth i gydweithwyr ym meysydd polisi a’r gyfraith o fewn eich maes arbenigedd.
- Meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol ag unigolion allweddol o fewn CNC ac Awdurdodau Cymwys eraill y DU i sicrhau bod gwerth Trwyddedu gymaint ag sydd bosibl yn ein rôl reoleiddiol.
- Cymryd cyfrifoldeb i sicrhau bod gwaith y Tîm Trwyddedu wedi’i ddogfennu’n glir a bod penderfyniadau a wneir ar geisiadau am drwyddedau yn dryloyw ac yn gyson.
- Cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod gan y Tîm Trwyddedu Morol yr offer a’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau dull teg a chyson o wneud penderfyniadau yn unol â’n cylch gorchwyl cyfreithiol.
- Sicrhau bod y Tîm Trwyddedu Morol yn gwneud penderfyniadau priodol ar geisiadau am drwyddedau o fewn yr amserlenni statudol drwy fonitro cynnydd yn erbyn targedau, nodi risgiau i gyflawni a rheoli’r risgiau hynny.
- Arwain neu gefnogi grŵp arweinwyr technegol y Gwasanaeth Trwyddedu i sicrhau ffyrdd cyson o weithio a bod gennym yr offer a’r prosesau cywir yn barod i nodi bylchau mewn sgiliau a datblygu ein pobl fel y gallwn gyflawni’n effeithiol ar gyfer ein cwsmeriaid mewn modd amserol.
- Arwain yn benodol ar ddatblygu’r fframwaith datblygu technegol a mentora a hyfforddi Swyddogion Trwyddedu Morol i sicrhau bod gan y tîm ddigon o wydnwch technegol a deddfwriaethol i allu cynghori ac asesu’r ystod lawn o ofynion trwyddedu morol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o reoli’r gwaith o asesu ceisiadau am drwyddedau morol hynod gymhleth a sensitif yn wleidyddol, gan gynnwys ymwneud â sefydliadau’r llywodraeth ac aelodau’r cyhoedd, yn eich maes arbenigol.
- Addysg hyd lefel gradd neu gyfwerth mewn disgyblaeth wyddonol berthnasol.
- Dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n berthnasol i’r broses Trwyddedu Morol.
- Hanes o ddarparu atebion amserol trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau ar sail risg.
- Gwybodaeth ymarferol sylweddol o’r technolegau a ddefnyddir a’r methodolegau diogelu’r amgylchedd sy’n berthnasol i’r gyfundrefn Trwyddedu Morol.
- Dealltwriaeth uwch ac arbenigol o ddeddfwriaeth benodol a Chyfarwyddebau cysylltiedig a sut maent yn berthnasol i’r broses drwyddedu.
- Sgiliau hyfforddi a mentora cydnabyddedig.
- Dull cyflawni sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Profiad o ddefnyddio Rhaglenni Mapio GIS.
- Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol.
- Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf o ran polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A2 – Level sylfaen
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref.
Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion.
Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i:https://www.gov.uk/skilled-worker-visa
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

