Darlithydd mewn Peirianneg Amaethyddol
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.Crynodeb o’r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…
Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Amaethyddol
Lleoliad: Llysfasi
Math o Gontract: Rhan-amser (0.4 cyfwerth ag amser llawn 14.8 awr yr wythnos), Parhaol
Cyflog Pro Rata: M1 £13,483.40 – UP3 £20,772.80 (Mae pwyntiau cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i’r raddfa dâl uwch)
Mae gennym ni gyfle cyffrous i Ddarlithydd Peirianneg ymuno â ni ar ein safle yn Llysfasi. Gyda chefnogaeth buddsoddiad o £10 miliwn, mae Llysfasi yn trawsnewid yn ganolfan o’r radd flaenaf ar gyfer cynaliadwyedd amaethyddol ac arloesedd technegol.
Yn y swydd yma, byddwch chi’n bennaf yn addysgu dysgwyr Lefel 2 a Lefel 3, gan gyflwyno gwersi deniadol, paratoi deunyddiau ymarferol, ac asesu gwaith cwrs i arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer eu gyrfaoedd peirianneg yn y dyfodol. Er bod y ffocws craidd ar Lefelau 2 a 3, mae profiad addysgu hyd at lefel HND yn ddelfrydol – er nad yw’n hanfodol.
Yr Hyn Fyddwch Chi’n Ei Wneud
- Cyflwyno Dysgu: Addysgu pynciau peirianneg ymarferol ac ymgysylltiol i fyfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3
- Cefnogi Twf Myfyrwyr: Darparu arweiniad adeiladol a helpu dysgwyr i gyflawni eu nodau personol
- Paratoi ar gyfer y Cwrs: Dylunio adnoddau dysgu, marcio aseiniadau, a chymryd rhan mewn cynllunio ac adolygiadau cyrsiau
- Cydweithio ac Adeiladu: Gweithio ochr yn ochr â thiwtoriaid a phartneriaid diwydiant i gadw ein cwricwlwm yn gyfredol ac yn ymarferol
Gofynion Hanfodol
- Gradd mewn maes pwnc perthnasol a/neu brofiad yn y diwydiant
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407) neu barodrwydd i weithio tuag ato
- Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gadw i fyny â datblygiadau o’r fath
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi’r anghenion hyn o fewn amgylchedd dysgu
Pam Ymuno a Choleg Cambria?
- Buddsoddi mewn Cyfleusterau: Dewch i addysgu mewn cyfleusterau newydd sbon, arloesol sy’n gyrru technoleg gynaliadwy.
- Ethos Pobl yn Gyntaf: Gweithio mewn amgylchedd cynhwysol lle mae staff a myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n wirioneddol.
- Twf Proffesiynol: Cefnogaeth barhaus ar gyfer eich datblygiad personol, gosod amcanion, a chymwysterau addysgu.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr fod â Lefel C2 yn y Gymraeg. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sydd ar hyn o bryd o fewn un lefel o’r safon ofynnol (C1) i wneud cais ar sail “angen dysgu”, ar yr amod eu bod nhw’n dangos ymrwymiad clir i gyflawni’r rhuglder angenrheidiol.
Hanfodol ydy sgiliau’r Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein darpariaeth a’n gwasanaethau dwyieithog.
Nod Coleg Cambria ydy hyrwyddo ac ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhagweithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gallu dilyn cynlluniau hyfforddiant Cymraeg yn ogystal â thaliadau anogaeth ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau dwyieithog.
Rydym yn annog ceisiadau yn y Gymraeg yn fawr. Ni fydd ceisiadau a gyflwynwyd yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Rydyn ni’n adeiladu coleg sy’n adlewyrchu’r gymuned fywiog ac amrywiol rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn.
Mae’r rôl hon wedi’i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi’i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae’n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae’n drosedd gwneud cais os ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw’n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi’n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

