ADNODD : Penodi Aelodau i’r Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg (2)

Teitl Swydd
ADNODD : Penodi Aelodau i’r Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg (2)
Enw’r Cwmni
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
wyneb yn wyneb, yn rhithwir a thrwy MS Teams
Cyflog
£95 y dydd, ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 31/08/2026

Y lefel gyfredol o ran taliad cydnabyddiaeth yw £95 y dydd, ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg wyneb yn wyneb ac yn rhithwir. Mae dau o bedwar cyfarfod blynyddol y Bwrdd yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, a cheir ymuno’n rhithwir. Mae cyfarfodydd eraill y Bwrdd a chyfarfodydd chwarterol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Mae’r penodiad am dymor cychwynnol o dair blynedd, a disgwylir ymrwymiad o ddau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2026.

Adnodd yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a Saesneg i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. Ei weledigaeth yw bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr ac ymarferydd, beth bynnag fo’u cefndiroedd, sy’n sbarduno eu dychymyg, yn cefnogi eu lles ac yn meithrin cariad gydol oes ynddynt at ddysgu. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid ledled Cymru, mae Adnodd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r sector addysg, ac mae’n atebol i Weinidogion Cymru.

Rydym yn recriwtio dau Aelod Bwrdd a fydd hefyd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg. Fel Aelod, byddwch yn cefnogi’r Cadeirydd i osod cyfeiriad strategol Adnodd, yn monitro perfformiad y sefydliad, ac yn sicrhau bod nodau ac amcanion yn cael eu cyflawni. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a her adeiladol, gan helpu ar yr un pryd i sicrhau bod trefniadau llywodraethiant, rheoli ariannol a sicrwydd systemau rheoli risg effeithiol ar waith ar draws y sefydliad.

Fel Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg, byddwch yn darparu cyngor, sicrwydd a chefnogaeth annibynnol i’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu ar faterion yn ymwneud â llywodraethiant, rheolaethau mewnol, rheoli risg, archwilio a rhwymedigaethau statudol. Byddwch hefyd yn helpu i oruchwylio perfformiad ariannol Adnodd a’i ofynion o ran adnoddau, gan gyfrannu cyngor ar strategaeth a pherfformiad ariannol ac o ran y gweithlu.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dod ag arbenigedd lefel uwch ym maes rheoli ariannol a/neu risg strategol, ynghyd â phrofiad o lywodraethiant corfforaethol ac o gynghori ar risg, rheolaeth a sicrwydd. Byddwch yn gallu dadansoddi data a gwybodaeth am berfformiad, gweithio gydag eraill, darparu her adeiladol, a byddwch yn dangos ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg Lefel 1 neu uwch. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg yn Saesneg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Ymhlith elfennau’r profiad y byddai’n ddymunol ei weld mae aelodaeth flaenorol o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Systemau Rheoli Risg; cymhwyster ariannol cydnabyddedig fel statws Cyfrifydd Siartredig; arbenigedd cyfreithiol; profiad o reoli contractau, caffael a thendro; neu brofiad o arwain o fewn corff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rôl strategol wrth lywio dyfodol adnoddau addysgol yng Nghymru, gan gyfrannu ar yr un pryd at lywodraethiant a stiwardiaeth ariannol sefydliad cenedlaethol sy’n tyfu. Mae Aelodau’r Bwrdd yn elwa o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant ar seiberddiogelwch, diogelu data, rheoli risg a deallusrwydd artiffisial, ochr yn ochr ag adolygiadau perfformiad blynyddol a rhaglenni datblygu sgiliau. Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol, dwyieithog sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a’r Gymraeg.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i’w hymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp, a bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn unol ag egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored.

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais‘ nawr.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Awst 2026.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ nawr.